Gofal esgeulus: carchar yn bosibilrwydd i weithwyr iechyd

Hospital ward
Dyw'r BMA ddim wedi croesawu'r newyddion

Mi allai doctoriaid a nyrsys sydd yn cael eu ffeindio yn euog o "esgeulustod bwriadol" wynebu carchar.

Dyna'r drosedd newydd mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu cyflwyno i staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr sydd ddim yn darparu gofal o safon.

Mae'r drosedd newydd wedi ei gyflwyno ar ôl sgandal yn ysbyty Stafford pan wnaeth cannoedd o gleifion farw.

Mi allai person gael dedfryd o bum mlynedd yn y carchar.

Yn ôl y BMA mi allai hyn achosi diwylliant o ofn o fewn y gwasanaeth iechyd.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn fodlon gwneud sylw ar y mater nes bod y cynigion wedi eu cyhoeddi yn swyddogol ddydd Mawrth.