Cymru 1-1 Ffindir

Wales' Gareth Bale reacts in frustration Image copyright AP
Image caption Er i Gareth Bale fygwth sawl gwaith wnaeth o ddim sgorio yn ystod y gêm

Mi oedd Cymru bron a chipio buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

Y tîm cartref oedd ar y blaen tan y munudau olaf pan sgoriodd Riku Riski i'r Ffindir.

Mae hyfforddwr Cymru, sydd newydd arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r tîm, wedi dweud ei fod o a'r chwaraewyr yn 'siomedig'.

"Un camgymeriad ac rydyn ni wedi ein cosbi trwy adael i'r Ffindir sgorio. Dw i a'r bechgyn yn ofnadwy o siomedig.

"Pan chi yn ennill o 1-0 efo dwy funud i fynd mae'n rhaid i chi barhau i roi 100% tan fod y gêm drosodd," meddai Chris Colman.

Doedd Aaron Ramsey na James Collins ddim yn chwarae o achos salwch ac anaf ond mi oedd Gareth Bale ar y cae.

Doedd na ddim llawer o gyfleoedd i'r ddau dîm yn yr hanner cyntaf ond yn yr ail hanner daeth gôl i Andy King.

Mi oedd hi yn edrych fel y byddai King yn sgorio eto o fewn ychydig funudau ac mi ergydiodd Bale sawl gwaith ond yn ofer.

Yn y munudau olaf y Ffindir oedd yn dathlu wrth i Riku Riski sgorio. Mae Coleman wedi dweud bod yn rhaid i'r chwaraewyr ddysgu i ganolbwyntio tan y chwiban olaf.

"Ar y lefel yma does dim ots pa mor dda rydych chi yn chwarae, os oes 'na ddiffyg canolbwyntio am gyfnod chi'n cael eich cosbi. Mae'n wers galed."

Cyfartal felly oedd y sgôr terfynol yn y gêm gyfeillgar.

Straeon perthnasol