Rali GB Cymru: cefnogaeth fawr i'r ras

Wales Rally GB care at Chirk Castle Image copyright Wales Rally GB
Image caption Mae nifer wedi bod yn dilyn y rali sydd yn gorffen yn Llandudno ddydd Sul

Mae trefnwyr rali GB Cymru yn dweud eu bod wedi 'gwirioni' efo'r niferoedd sydd wedi dod i wylio'r ras eleni.

Tro yma mae'r rali wedi ei chynnal yng ngogledd Cymru.

Mi fydd y rali yn dod i ben yn Llandudno bnawn Sul.

Am fod y digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus mae'r trefnwyr wedi dweud mai dim ond pobl efo tocynnau o flaen llaw fydd yn medru cael mynediad i ardal y llwyfan rali yn Abergele.

Dyma'r ardal lle mae modd gweld ceir rasio hanesyddol a gwylio'r ras yn fyw ar sgrin fawr.

Meysydd parcio yn llawn

Fe gafwyd trafferthion ger castell Y Waun ddydd Sadwrn am fod y meysydd parcio wedi llenwi. Mi olygodd hyn bod y trefnwyr wedi gorfod dweud wrth bobl nad oedd modd iddyn nhw ddod i mewn.

Dywedodd prif weithredwr International Motor Sports, Andrew Coe sydd yn trefnu'r digwyddiadau:

"Rydyn ni yn ymwybodol bod nifer o rheiny yn bobl oedd gyda thocynnau ac mi ydyn ni yn ymddiheuro am hynny.

"Roedd y meysydd parcio yn llawn dop ac am fod y rali yn digwydd mewn nifer o ardaloedd anghysbell doedd dim dewis gyda ni."

Dim ond pobl sydd gyda thocynnau yn barod fydd yn medru mynd i'r ardal lle mae'r llwyfan ddydd Sul.

Ond mae modd prynu tocynnau ar gyfer rhan olaf y rali yn Dyfnant, Clocaenog a Llandudno.

Ar ddiwrnod olaf y bencampwriaeth mae Sebastien Ogier yn parhau i arwain gyda Jari-Matti Latvala yn yr ail safle.

Mae'r Cymro Elfyn Evans hefyd yn parhau i fod ar y blaen yn Categori 2 o'r rali gyda mwy na munud o fantais.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.