Dyn o Landudno wedi ei ddarganfod yn ddiogel

David Richard Owen Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Does neb wedi gweld David Richard Owen ers dydd Sadwrn

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod dyn o ardal Llandudno oedd ar goll wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel.

Roedd ditectifs wedi gwneud apêl am wybodaeth am David Richard Owen, 46, ar ôl iddo ddiflannu ddydd Sadwrn.

Ond cadarnhaodd yr heddlu fod Mr Owen wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel nos Lun ar ôl cytuno i gwrdd â swyddogion lleol.