Mesur Tai: Cyfle i wneud gwahaniaeth?

Tai
Image caption Bydd gofyn i bawb sy'n rhoi tŷ ar osod i gofrestru cyn gwneud hynny

Dyw prisiau tai yng Nghymru - a'r diffyg tai sydd ar gael mewn rhai ardaloedd - byth yn bell o'r penawdau. Dyma ymgais gynta' Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma ers iddi dderbyn pwerau deddfu llawn yn 2011.

Y teimlad o fewn Llywodraeth Cymru yw taw dyma un o Fesurau mwya' arwyddocaol y Sesiwn yma o'r Cynulliad - cyfle euraidd i wneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y wlad.

Fydd gofyn ar bawb sy'n rhoi tŷ ar osod i'w rhentu i gofrestru gyda'r awdurdod lleol - fydd modd codi dirwy ar y sawl sy'n gwrthod, ac atal y rhent rhag perchnogion tai sy'n cwympo islaw safon dderbyniol.

Mewn newid trawiadol arall fe fydd cynghorau yn gallu codi treth cyngor ar gyfradd o 150% ar dai sy'n wag am fwy na blwyddyn. Mae miloedd o dai gwag yng Nghymru, a bwriad y llywodraeth yw gwneud defnydd o gynifer o rain ag sy'n bosib - ond a fydd y gic fach ariannol yn ddigon i orfodi'r perchnogion i werthu?

Does dim cymal yn y bil yn ymwneud ag ail dai. Mae hynny'n siom i Blaid Cymru, sy'n galw am roi'r hawl i gynghorau godi treth cyngor o 200% ar ail dai. Ond mae'r llywodraeth wedi cynnal ymgynghoriad, ac mae'n bosib fydd rhyw fath o newid y polisi yn cael ei chyflwyno cyn i'r mesur cyrraedd pen y daith.

Digon i gnoi cil drosti

Mae digon yn y Mesur i awdurdodau lleol gnoi cil drosti. Bydd gofyn iddyn nhw wneud mwy i atal digartrefedd - fydd rhaid rhoi help i bawb sy' dan fygythiad o golli tŷ neu loches o fewn 56 diwrnod, yn hytrach na'r 28 diwrnod presennol: mwy o amser i ymyrryd mewn da bryd, yw'r rhesymeg.

Wrth gwrs nid pob awdurdod sy' berchen ar stoc o dai cyngor bellach; mae nifer wedi trosglwyddo'r cwbwl lot at ymddiriedolaeth.

Ond mewn 11 o'r 22 awdurdod mae 'na dai cyngor traddodiadol o hyd - ac mae 'na newyddion da i'r swyddogion cyllid o leiaf. Mae hen gymal bondigrybwyll mewn Mesur anghofiedig yn golygu fod rhaid talu canran o'r rhent sy'n dod i law at y Trysorlys. Dim mwyach - cewch chi gadw'r cwbwl o hyn ymlaen - rhyw £33m yn ychwanegol bob blwyddyn.

Ond cyn i neb drefnu parti yn neuadd y Sir, mae gofyn i wario'r arian ychwanegol ar wella'r tai eu hunain: fydd rhaid cyrraedd safonau a osodwyd Llywodraeth Cymru erbyn 2020. Mae rhai wedi gwneud hynny eisoes, er bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu methiant eraill i gyrraedd targedau erbyn 2012.

Un pwnc llosg arall yw'r ddarpariaeth ar gyfer sipsiwn a chymunedau teithiol. Does dim gofyn statudol i gynghorau gynnig tir i gymunedau o'r fath; fydd hyn yn newid gyda gofyn newydd i gynghorau asesu'r galw a chymryd camau i ddiwallu'r galw hwnnw.

Gobaith y llywodraeth yw y bydd y newidiadau manwl yma yn sicrhau fod gan bawb yng Nghymru gyfle teg i fyw mewn cartref o safon uchel. Mae'n gyfle hefyd i ddarbwyllo'r cyhoedd fod y defnydd gorau'n cael ei wneud o'r pŵer deddfu sy' bellach ar gael ym Mae Caerdydd.

Straeon perthnasol