Cymru: Un cap newydd ac 11 newid

Hallam Amos Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Hallam Amos o'r Dreigiau yn ennill ei gap cyntaf i Gymru

Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland wedi cyhoeddi 11 newid yn y tîm fydd yn wynebu Tonga nos Wener o'r 15 ddechreuodd yn erbyn Ariannin.

Ymhlith y newidiadau bydd un chwaraewr yn ennill ei gap cyntaf, sef Hallam Amos o'r Dreigiau ar yr asgell.

Y pedwar sy'n cadw'u lle yn y tîm yw Leigh Halfpenny, George North, Rhodri Jones a Justin Tipuric.

Mae Owen Williams o'r Gleision - enillodd ei gap cyntaf yn ystod taith Cymru i Japan ym mis Mehefin - wedi cael ei alw i mewn fel canolwr yn dilyn cyfres o anafiadau yn y safle yna i Gymru, gyda Jonathan Davies, Jamie Roberts a Corey Allen allan o weddill y gyfres a Scott Williams heb wella o anaf i fawd ei droed.

Mae yna ddewis difyr yn safle'r maswr hefyd, gyda Gatland yn dewis dechrau gyda James Hook a Lloyd Williams yn bartner iddo fel mewnwr.

Carreg filltir

Dyma'r tro cyntaf ers 12 mlynedd i Tonga ymweld â Stadiwm y Mileniwm, ac fe fydd Warren Gatland yn cyrraedd carreg filltir go arbennig gan mai dyma fydd ei 100fed gêm brawf fel prif hyfforddwr.

Dywedodd: "Mae Tonga yn dîm nodweddiadol o Fôr y De - fe fyddan nhw'n gorfforol ac yn gryf.

"Rydym yn cymryd balchder ein bod yn gallu cymharu'n ffafriol gyda natur gorfforol unrhyw wrthwynebydd, ac fe fydd yn rhaid gwneud hynny nos Wener.

"Rydym wedi gwneud sawl newid, ond mae hwn yn gyfle gwych i'r bechgyn ddangos i ni sut yn union y maen nhw'n ymdopi gyda'r gêm ryngwladol."

CYMRU v. TONGA: Stadiwm y Mileniwm; Nos Wener, Tachwedd 22 :-

15. Halfpenny (Gleision);

14. North (Northampton), 13. Owen Williams (Gleision) , 12. Beck (Gweilch) , 11. Amos (Dreigiau);

10. Hook (Perpignan), 9. Lloyd Williams (Gleision);

1. James (Caerfaddon) , 2. Owens (Scarlets), 3. R Jones (Scarlets) ;

4. Charteris (Perpignan) , 5. Ian Evans (Gweilch);

6. Coombs (Gweilch) ; 7. Tipuric (Gweilch), 8. Ryan Jones (Gweilch - capten).

Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision), Rhodri Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Jordan Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol