Damwain pum cerbyd yng Nghaerdydd

Mae'r gwasanaeth tân wedi bod yn delio gyda damwain yn ymwneud â phum cerbyd ar Western Avenue yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod chwech o bobl yn rhan o'r digwyddiad a'u bod wedi gorfod torri un yn rhydd o'i gerbyd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig wedi 7:00yh.

Roedd y ffordd wedi ei chau tuag at y dwyrain nos Fawrth ac roedd traffig yn araf tua'r gorllewin.