Dartford 1-5 Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Dartford 1-5 Wrecsam

Daeth Wrecsam yn ôl oddechrau gwael i sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf y tymor hwn yn Dartford nos Fawrth.

Sgoriodd Lee Burns i'r tîm cartref wedi dim ond tri munud.

Ond aeth Wrecsam yn gyfartal drwy gôl Brett Ormerod cyn i Joe Clarke eu rhoi ar y blaen.

Daeth goliau pellach gan Rob Ogleby ac ail i Ormerod i ymestyn y fantais cyn yr egwyl.

Yna fe sgoriodd Johnny Hunt y bumed yn yr ail hanner i sicrhau ail fuddugoliaeth oddi cartref y tymor hwn i dîm Andy Morrell.

Mae Wrecsam bellach yn 15fed yn nhabl Uwchgynghrair Skrill.