Pedwar yn ddieuog o achosi ffrae

Newbury racecourse Image copyright Getty Images
Image caption Clywodd y llys bod yr ymladd ar gwrs rasio Newbury wedi para am tua 15 munud

Mae pedwar dyn gafodd eu dal yng nghanol cythrwfl ar gwrs rasio ceffylau Newbury wedi eu cael yn ddieuog o achosi ffrae mewn llys.

Roedd y pedwar, sy'n aelodau o Glwb Rygbi Gorseinon, wedi mynd ar daith 'parti dynion' ym mis Gorffennaf y llynedd.

Yn ystod y dydd fe ddechreuodd tua 70 o gefnogwyr pêl-droed clybiau Caerdydd ac Abertawe ymladd.

Roedd y pedwar - Robert Jenkins, 32 oed a Ryan Thomas, 30 o Gorseinon, Joshua Davies, 25 o Ddyfnant a David Jenkins, 32 o Lanelli - wedi dweud mai amddiffyn eu hunain oedden nhw wrth iddyn nhw gael eu dal yn y canol.

Roedd cefnwr Cymru a'r Llewod Leigh Halfpenny hefyd yn rhan o'r criw, ond doedd e ddim yn rhan o'r digwyddiad dan sylw.

Yn ystod y gwrandawiad yn Llys y Goron Reading, fe welodd y rheithgor luniau o'r ymladd ar wefan YouTube ac o raglen deledu Channel 4 o'r rasio.

Fe gymrodd aelodau'r rheithgor llai na thair awr i gael y pedwar yn ddieuog.

Straeon perthnasol