Disgyn o ddibyn: Marwolaeth ddamweiniol

Anna Galazka a Rhys Clark
Image caption Cafodd Anna Galazka anafiadau difrifol ond bu farw Rhys Clark wrth ddisgyn o ben y dibyn

Mae cwest yng Nghaerdydd wedi clywed bod cwpwl ifanc wedi disgyn o ben clogwyn wrth geisio achub eu ci anwes.

Bu farw Rhys Clark ac fe gafodd ei gariad Anna Galazka anafiadau difrifol wrth iddyn nhw redeg ar ôl y ci ar ben clogwyn yn Southerndown ym Mro Morgannwg.

Dywedodd llygad-dystion wrth y cwest eu bod wedi gweld Mr Clark yn llithro i lawr llethr cyn disgyn i'r creigiau islaw.

Disgynnodd Ms Galazka ar ei ôl. Cafodd Mr Clark ei ladd yn syth, ac fe gafodd Ms Galazka ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Mae hi'n dal i wella o'u hanafiadau ac nid oedd yn y cwest i roi tystiolaeth.

Dywedodd crwner Caerdydd a Bro Morgannwg Thomas Atherton: "Mae'n glir iawn o'r dystiolaeth bod y ci wedi rhedeg at ymyl y dibyn a bod Rhys wedi ei ddilyn gyda chanlyniadau trasig."

Cofnododd i Rhys Clark farw trwy ddamwain.

Straeon perthnasol