Rhaglen ddogfen S4C 'yn unochrog'

Charles Darwin ac Afred Russel Wallace
Ai Charles Darwin (chwith) ynteu Alfred Russel Wallace (dde) ddylai gael y clod am y syniad o esblygiad?

Mae yna feirniadaeth o S4C am ddarlledu rhaglen ddogfen "unochrog" oedd yn honni bod Charles Darwin wedi dwyn rhai o syniadau'r Cymro Alfred Russel Wallace.

Mae dau arbenigwr ar fywyd Wallace wedi dweud wrth y BBC eu bod nhw'n credu nad oedd y rhaglen yn un gytbwys.

Yn ogystal, mae un ohonynt yn mynd ymhellach gan gyhuddo S4C o roi llwyfan i "ddamcaniaethwyr cynllwyn eithafol".

Mae S4C wedi gwrthod yr honiadau gan ddweud bod y rhaglen yn ei gwneud yn glir fod barn y cyfranwyr iddi yn "anghonfensiynol"

'Celwydd a thwyll'

Cafodd Darwin, y Cymro a'r Cynllwyn ei gynhyrchu gan y Telesgop a'i ddangos ar S4C gyntaf ar nos Sul 3 Tachwedd.

Roedd y rhaglen yn awgrymu bod Charles Darwin wedi "dweud celwydd a thwyllo" er mwyn cael y clod am y ddamcaniaeth esblygiad.

Honiad allweddol y rhaglen oedd fod Darwin wedi derbyn llythyr gan Wallace 15 diwrnod yn gynharach nag yr oedd wedi ei honni.

Yn ystod y rhaglen roedd Roy Davies, awdur The Darwin Conspiracy, yn honni ei fod yn berchen ar dystiolaeth sy'n profi hyn.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud: "Os wnaeth Darwin dderbyn y llythyr ar Fehefin y 3ydd ac iddo ddweud wrth Lyell mewn llythyr ar 18ed o Fehefin ei fod o wedi ei dderbyn y diwrnod yna, yna mae'n rhaid bod Charles Darwin yn dweud celwydd...

"Mae beth ddigwyddodd yma yn warthus wrth i dri bonheddwr dosbarth canol-uwch ddarganfod ffordd o gymryd ei hawl i gael ei gydnabod fel y dyn wnaeth feddwl am y ddamcaniaeth o esblygiad am y tro cyntaf oddi ar ddyn dosbarth gweithiol cyffredin."

Ond yn ôl un arbenigwr ar fywydau Darwin a Wallace ac awdur llyfr yn olrhain hanes y ddau yn darganfod esblygiad, dydy hynny ddim yn wir.

Hanfod y ddadl

Cnewyllyn yr anghytundeb rhwng Roy Davies a Dr van Wyhe yw pryd wnaeth Darwin dderbyn llythyr gan Wallace oedd yn amlinellu ei syniadau ynglŷn â beth ddaeth yn gonglfaen i'r ddamcaniaeth esblygiad, sef y syniad o ddargyfeiredd (divergence).

Mae Mr Davies yn mynnu bod Darwin wedi derbyn y llythyr ar Fehefin 3ydd 1858 a'i fod wedi cadw'i gynnwys o dan ei het nes Mehefin 18fed.

Yn ôl Mr Davies fe ysgrifennodd Darwin at un o'i gyfoedion, Charles Lyell, yn y cyfamser gan ddweud ei fod ef wedi canfod y syniad o ddargyfeiredd.

Ond mae Dr van Wyhe yn mynnu nad yw hyn yn wir.

Rhesymau annilys

Dyma yw barn Roy Davies: "Yn rhifyn mis Rhagfyr 2011 o'r Biological Journal of the Linnean Society (BJLS), mae ef (Van Wyhe) yn ysgrifennu am ddamcaniaeth ganddo ef a'i gydweithiwr, sydd heb ei selio ar unrhyw dystiolaeth, sef bod llythyr Wallace i Darwin wedi cyrraedd tŷ Darwin ar Fehefin 17eg 1858, ddiwrnod cyn iddo ysgrifennu at Lyell yn honni ei fod newydd gyrraedd.

"Er mwyn gwneud i'r ddamcaniaeth weithio fe wnaeth van Wyhe a'i gydweithiwr ddarganfod rhesymau annilys oedd heb unrhyw gefnogaeth i ddal y llythyr yn ôl am fis cyfan.

"Cafodd fy erthygl i, sy'n dangos sut wnaeth y ddau ysgolhaig yma geisio gwyrdroi'r system oedd yn mynd a post i Singapore o Surabaya, ei chyhoeddi yn y BJLS yn rhifyn nesa'r cylchgrawn, yn Ionawr 2012."

Dywedodd Dr van Wyhe: "Mae'r cyhuddiad ynglŷn â thaith y llythyr wedi ei wrthbrofi'n llwyr a does yr un ysgolhaig difrifol yn cymryd y peth o ddifri.

"Doedd yna erioed unrhyw bwynt mewn gwneud cyhuddiadau am ddyddiadau post yn y lle cyntaf oherwydd, fel sydd wedi bod yn hollol glir i ysgolheigion o Darwin a Wallace am ddegawdau lawer, nid oes unrhyw dystiolaeth o fenthyg yn eu gwaith o gwbl.

"Mae gennym lwybr papur clir ar gyfer y datblygiad annibynnol o'u syniadau. Nid oedd barn y ddau yn union yr un fath ac mae'r gwahaniaethau rhyngddynt yn rhywbeth sydd wedi ei ddeall yn dda."

'Ffantasi llwyr'

Mae Dr John van Wyhe yn adnabyddus am sefydlu The Complete Works of Charles Darwin Online yn ogystal â bod yn aelod o'r Gymdeithas Hanes Gwyddoniaeth Brydeinig.

Gan gyfeirio at honiadau Mr Davies, dywedodd: "Mae'r honiadau sy'n cael eu gwneud yn y rhaglen gan gefnogwyr Wallace yn anghywir ac yn anwybodus, dyw'r bobl yma ddim yn haneswyr.

"Yn waeth na hynny, mae eu darlun o Wallace fel rhyw fath o athrylith dosbarth gweithiol oedd wedi cael ei dwyllo neu ei drin annheg yn ffantasi llwyr.

"Does dim sail ar gyfer hyn mewn realiti hanesyddol a does gan y bobl sy'n dweud fel arall ddim hyfforddiant, dealltwriaeth, cymwysterau na chymhwysedd i'w cefnogi.

"Mae'r cyhuddiad ynglŷn â thaith y llythyr wedi ei wrthbrofi'n llwyr a does yr un ysgolhaig difrifol yn cymryd y peth o ddifri."

'Unochrog'

Mae arddangosfa o waith Wallace yn Amgueddfa Cymru ar hyn o bryd.

Julian Carter oedd yn gyfrifol am ei threfnu, ac mae e hefyd o'r farn nad oedd yr hyn a welodd ar raglen S4C yn cyd-fynd gyda'r gwirionedd.

"Yn anffodus roedd hon yn rhaglen unochrog iawn," meddai.

"Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi gan y ddamcaniaeth o gynllwyn - mae pobl wedi cyflwyno tystiolaeth i'r gwrthwyneb ac mae'n fethiant anferth i'r rhaglen yna beidio adlewyrchu hynny... roedd yn teimlo ar adegau fel tipyn o 'sesiwn lladd ar Darwin'...

"Os ydych am wneud dadl wyddonol mae'n rhaid i chi gyflwyno dwy ochr y stori, wnawn ni byth wybod os wnaeth Darwin 'fenthyg' syniadau Wallace a'i peidio ond mae'n rhaid cofio nad oes unrhyw dystiolaeth o ddrwgdeimlad yng ngwaith Wallace tuag at Darwin.

"Os byddai o'n ddig yna mi fyddai o'n sicr wedi ysgrifennu am y peth..."

S4C yn amddiffyn y rhaglen

Yn ogystal â beirniadu'r rhaglen fe ddywedodd Dr van Wyhe ei fod wedi siomi fod S4C wedi rhoi llwyfan i "safbwyntiau damcaniaethwyr cynllwyn eithafol yn hytrach nag arbenigwyr cymwys mewn hanes gwyddoniaeth".

Pan ofynnodd y BBC i'r sianel am eu hymateb i hyn, dywedodd Llion Iwan, comisiynydd cynnwys ffeithiol S4C: "Mae Darwin, Y Cymro a'r Cynllwyn yn cynnwys safbwyniau dadleuol iawn, ond eto wedi eu seilio ar ffeithiau. Nid yw'n syndod fod y fath safbwyntiau yn denu ymateb gan rai sy'n gwrthod y syniad o gynllwyn yn erbyn Alfred Russel Wallace.

"Beth mae'r rhaglen yn ei wneud ydi amlinellu achos y bobl sy'n credu'n gryf fod yr ymchwil yn dangos bod Wallace wedi cael cam, ac mai e ddylai fod wedi derbyn y gydnabyddiaeth am y ddamcaniaeth ar esblygiad, neu o leiaf ei rhannu.

"Mae'r rhaglen yn gwneud hyn mewn ffordd fywiog a chlir - ac mae holl gyd-destun y rhaglen yn ei gwneud hi'n amlwg fod safbwyntiau'r bobl sy'n cymryd rhan yn groes i'r farn gonfensiynol am sut y darganfuwyd y ddamcaniaeth, a chan bwy.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn gwylio'r rhaglen, sydd yn dal i fod ar gael drwy wasanaeth ar-alw S4C, Clic, a phenderfynu drostyn nhw eu hunain a oes sylwedd i'r honiad bod Alfred Russel Wallace wedi cael cam."

'Rhaid i'r gwylwyr benderfynu'

Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen, Elin Rhys o Telesgop: "Rwyf wrth fy modd fod y rhaglen wedi ennyn ymateb, dyna'n union roeddwn i wedi ei obeithio fyddai'n digwydd gan fy mod i'n meddwl ei fod yn bwysig fod pobl yn trafod gwaith Wallace.

"Rwyf wedi adnabod Roy Davies ers bron i 20 mlynedd ac mae'n ddyn didwyll a newyddiadurwr egwyddorol a trwy ei allu wedi darganfod fod stori yma y dylai pobl wybod amdani.

"Yn ystod y rhaglen rydym yn rhoi tystiolaeth gerbron sy'n seiliedig ar lyfr Mr Davies ac mae fyny i'r gwylwyr benderfynu drostyn eu hunain be maen nhw'n feddwl.

"Mewn ymateb i'r ffaith fod Mr Carter yn dweud fod Wallace wedi ystyried Darwin i fod yn ffrind drwy gydol ei oes, hoffwn ddweud nad roedd Wallace y math o ddyn fyddai'n amau neb ac rwy'n credu ei fod wedi mynd i'w fedd heb wybod am fodolaeth y cynllwyn yn ei erbyn."

Gan amddiffyn gwaith Roy Davies, dywedodd Ms Rhys: "Mae'n siom fod pobl yn ceisio twli baw ar rywun sydd wedi gweithio mor galed gan geisio tanseilio ei gymeriad yn hytrach nag ymateb i'r pwyntiau mae Mr Davies wedi eu codi."