Buddugoliaethau i'r Bala ac Aberystwyth

Image copyright FAW

Bala 2-1 Prestatyn

Roedd tymor y Bala'n ymddangos fel pe bai'n dadfeilio'n llwyr pan aethon nhw ar ei hôl hi unwaith eto ar eu tomen eu hunain.

Conall Murtagh osododd y bêl yn ei rwyd ei hun wedi 11 munud i roi Prestatyn ar y blaen.

Wedi 27 munud roedd y sgôr yn gyfartal diolch i gynnig Mark Connolly.

Roedd rhaid aros tan y 62ain munud cyn i'r Bala fynd ar y blaen, ac fe wnaethon nhw hynny drwy gynnig Ian Sheridan.

Fe ddaliodd y Bala eu gafael am y fuddugoliaeth bwysig.

Aberystwyth 3-2 Y Rhyl

Gôl i'w rwyd ei hun gan Mark Jones roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yng Nghoedlan y Parc.

Ond wedi 37 munud roedd Aber yn gyfartal diolch i gic o'r smotyn gan Chris Venables.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 56 munud gyda Craig Williams yn sgorio.

O fewn pedwar munud fe ychwanegodd Williams ei ail i'w gwneud hi'n 3-1, ond daeth gobaith i'r ymwelwyr wrth i Tom Rowlands gau'r bwlch gydag wyth munud yn weddill.

Ond Aberystwyth gadwodd y fantais tan y chwib olaf i sicrhau'r pwyntiau llawn.