Glasgow 8-23 Dreigiau

Pro 12

Glasgow 8-23 Dreigiau

Dim ond un o ranbarthau Cymru oedd yn chwarae yng nghynghrair y Pro12 nos Wener, ac roedd hi'n noson dda arall i'r Dreigiau yn yr Alban.

Y seren oedd Jason Tovey. Fe sgoriodd y maswr 13 o bwyntiau yn yr hanner cyntaf, gyda chais, trosiad a dwy gôl gosb, ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 13-5 ar yr egwyl.

Er i Glasgow ychwanegu gol gosb at y cais gan Matawalu cyn yr egwyl i gau'r bwlch, fe ddaeth cais arall i Will Harries i'r Dreigiau i agor y bwlch drachefn.

Trosodd Tovey'r cais cyn ychwanegu gol gosb arall i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Dreigiau.