Merched Montenegro 0-3 Merched Cymru

Helen Ward Image copyright PA
Image caption Helen Ward, o dîm merched Chelsea, sgoriodd ddwy o goliau Cymru

Fe sgoriodd Helen Ward, o dîm merched Chelsea, ddwywaith wrth i Gymru hawlio buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Montenegro yn Niksic yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2015.

Fe lwyddodd Ward gyda chic o'r smotyn ac fe wnaeth y mwya' o groesiad Helen Bleazard i'w gwneud yn 3-0 yn hwyr yn yr ail hanner.

Roedd Cymru'n arwain 1-0 ar yr hanner wedi i Hannah Keryakopolis, o Stoke City, gael y gorau o gôlgeidwad Montenegro, Marija Žižić.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi cael chwe phwynt o'u dwy gêm yng ngrŵp 6, ond maent yn dal i fod chwe phwynt y tu ôl i Loegr, sydd ar frig y grŵp.

Straeon perthnasol