Fulham 1-2 Abertawe

Abertawe yn dathlu Image copyright Getty Images
Image caption Abertawe yn dathlu eu buddugoliaeth gynta' mewn chwe gêm

Fulham 1-2 Abertawe

Daeth Jonjo Shelvey oddi ar y fainc i sicrhau buddugoliaeth gynta' Abertawe mewn chwe gêm.

Fe wnaeth Shelvey, 21, oedd arfer â chwarae i Lerpwl, saethu'r ergyd ag arddeliad heibio Maarten Stekelenburg.

Sgoriodd capten y tîm cartre' Scott Parker ei gôl gynta' i Fulham, a'i ymdrech yn atal Aaron Hughes rhag sgorio i'w rwyd ei hun.

Mae'r fuddugoliaeth i Abertawe yn rhoi mwy o bwysau ar reolwr Fulham, Martin Jol, wrth i'w dîm ddisgyn i un o'r tri ola' yn yr Uwchgynghrair.