Gweilch 30-20 Zebre

Asgellwr y Gweilch Tyler Ardron Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Asgellwr y Gweilch, Tyler Ardron, yn sgorio cais i roi'r Gweilch ar y blaen

Fe groesodd yr asgellwr Tyler Ardron a'r prop Duncan Jones i sgorio ceisiau, wrth i'r Gweilch frwydro'r holl ffordd i sicrhau buddugoliaeth dros Zebre.

Sgoriodd y maswr Matthew Morgan 20 o bwyntiau i'r tîm cartre'.

Yr asgellwr Filippo Cristiano a'r rhif wyth Samuela Vunisa sgoriodd i Zebre.

Roedd yn rhaid i'r Gweilch - sydd wedi colli chwech o'u saith gêm ddiwetha' ym mhob cystadleuaeth - daro'n ôl ar ôl mynd ar ei hôl hi yn yr hanner cynta' yn Stadiwm Liberty.

Aldron a Jones sydd i ddiolch am y fuddugoliaeth wedi'u ceisiau nhw yn yr ail hanner, gyda Jones yn sgorio am y tro cynta' mewn pedair blynedd.

Straeon perthnasol