Achub pensiynwraig wedi tân mewn byngalo

Cafodd dynes oedrannus ei hachub gan ei chymdogion wedi i dân ddifrodi byngalo yn Rhiwbeina, Caerdydd.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw am 5:49yh nos Sadwrn, wedi adroddiadau bod yr adeilad ar dân.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y ddynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty ble cafodd driniaeth am effeithiau anadlu mwg.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig wrth daclo'r tân, a gymrodd ddwy awyr i'w ddiffodd.

Does dim cadarnhad ynglŷn ag achos y tân hyd yma.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.