Vinnie Jones yn cael triniaeth canser

Vinnie Jones
Image caption Dywedodd Vinnie Jones fod ei wraig Tanya hefyd yn diodde' o ganser y croen

Mae'r actor a chyn bêldroediwr Cymru Vinnie Jones yn dweud ei fod wedi gorfod cael tynnu sawl lwmp ar ôl cael canser y croen.

Roedd Jones, 48, wedi sylwi ar smotyn bychan o dan ei lygad ym mis Chwefror, gan feddwl mai "ploryn neu ddafad" oedd o.

Ond ar ôl gweld y meddyg, cafodd ddiagnosis am melanoma - y math mwya' difrifol o ganser y croen, sy'n lladd 2,200 o bobl pob blwyddyn.

Mae meddygon wedi dod o hyd i sawl tiwmor arall ers hynny, ond dywedodd Jones wrth bapur newydd y Sun y byddai'n brwydro'r afiechyd "gyda phopeth sydd gen i".

"Pan ddywedodd y doctor bod gen i ganser y croen, y peth cynta' nes i feddwl oedd 'pa mor hir sydd gen i?'", meddai wrth y papur.

"Mae'n pwyso'n drwm arna' i drwy'r amser," ychwanegodd.

Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i melanoma wedi cynyddu yn y DU ers dechrau'r 1970au, ond mae modd atal yr afiechyd yn gymharol hawdd trwy osgoi haul cryf a defnyddio digon o eli.

Mae'r driniaeth yn fwy tebygol o lwyddo os oes diagnosis cynnar.

Ag yntau bellach yn gweithio gyda Sefydliad Ymchwil Melanoma, mae'n annog pobl i fod yn fwy ymwybodol o beryglon torheulo.