'Angen hybu'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg', medd Meri Huws

Meri Huws
Image caption Mae Meri Huws eisiau i bobl ifanc weld cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg y tu allan i'r dosbarth

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi pwysleisio'r angen i ddysgu a hybu'r iaith yn ysgolion cyfrwng Saesneg Cymru.

Bydd Meri Huws yn gwneud ei sylwadau mewn cyfweliad ar raglen drafod 'Ein Barn Ni', sy'n cael ei darlledu ar S4C nos Sul.

Meddai: "Dwi ddim yn gallu gweld sefyllfa ble'r y'n ni'n eithrio pobl o'r profiad yna o ddysgu'r Gymraeg.

"Mae'r patrwm ry'n ni'n gweld yng Nghaerdydd, yn Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd - mae 'na gynnydd o ran pobl ifanc sy'n siarad Cymraeg. Dwi'n credu bod 'na gyfrifoldeb arnon ni i sicrhau bod hwnna'n parhau.

"Y cyfrifoldeb arall sydd arnon ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod nhw ddim jyst yn gweld hi fel iaith y dosbarth, a bod nhw'n gweld y cyfleoedd - boed hynny trwy waith, boed hynny trwy fod yn rhieni yn y dyfodol, boed hynny trwy fod yn bobl sy'n arddel y Gymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg. Nid rhywbeth sydd ond yn digwydd yn yr ysgol, ond yn digwydd mewn llefydd parchus, traddodiadol."

Cyfrifiad 2011

Wedi'r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd, dywed y comisiynydd ei bod yn hanfodol i weithio'n galed y tu hwnt i'r cadarnleoedd hynny.

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad o 2% mewn siaradwyr Cymraeg ers y Cyfrifiad diwetha' yn 2001.

Mae'r modd mae Cymraeg yn cael ei ddysgu mewn ysgolion Di-Gymraeg wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, gydag adroddiad grŵp gorchwyl y llywodraeth yn galw an newid cyfeiriad ar frys i atal dirywiad y Gymraeg fel ail iaith.

Ond mae eraill yn anghytuno, gyda rhai yn dadlau y byddai unrhyw newidiadau yn niweidiol i addysg plant.

Mae tua 80% o ddisgyblion yng Nghymru yn dysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

Ymgynghoriad 'Iaith Fyw'

Wedi'r Cyfrifiad, fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a oedd yn ystyried dyfodol yr iaith.

Wrth ymateb i Iaith Fyw: cyfle i ddweud eich dweud, dywedodd y llywodraeth mai mewnlifiad ac all-lifiad ydy'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r Gymraeg.

Ar y pryd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Yr hyn sy'n amlwg o'r wybodaeth a gasglwyd gennym yw ein bod ar y trywydd iawn ond bod angen inni geisio magu hyder pobl i ddefnyddio'r iaith a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd."

Dywedodd hefyd fod angen newid agwedd ac ymddygiad pobl er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad a'i chlywed mewn cymunedau a gweithleoedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.