Ci yn ymosod ar ddynes yng Nghaerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddynes gael ei hanafu'n ddifrifol gan gi mewn parc yng Nghaerdydd.

Cafodd yr awdurdodau eu galw i Barc Victoria yn y brifddinas am 2:38yh ddydd Sadwrn, wedi addroddiadau fod rhywun wedi diodde' brathiad ci difrifol.

Roedd y ddynes wedi cael anafiadau drwg i'w breichiau ac roedd angen triniaeth ysbyty ar ôl yr ymosodiad gan y ci, oedd hefyd wedi ymosod ar ei chi hithau a'i ladd yn y parc.

Mae'r ci dan sylw wedi cael ei ddal gan yr heddlu ond dydyn nhw ddim yn gwybod pwy yw ei berchennog.

Yn ôl swyddogion, mae'r ci yn debyg i ddaeargi tarw o ran golwg ac yn lliw glas-lwyd anarferol.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i berchennog y ci, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad, i gysylltu â nhw ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod 62130368937.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.