Caerdydd 2-2 Manchester United

Kim Bo-Kyung Image copyright AFP
Image caption Peniad Kim Bo-kyung sicrhaodd gêm gyfartal i Gaerdydd

Caerdydd 2-2 Man United

Daeth Kim Bo-Kyung ymlaen fel eilydd yn hwyr yn y gêm wrth i Gaerdydd hawlio pwynt haeddianol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.

Mae'r canlyniad 2-2 yn gwadu lle i Manchester United yn y pedwar ucha' yn Uwchgynghrair Lloegr.

Daeth peniad Kim wedi cic rydd o'r postyn agosaf.

Er i Wayne Rooney roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl chwarter awr, methodd siawns wych i gipio buddugoliaeth eiliadau cyn diwedd y gêm.

Roedd yr ymosodwr yn ffodus iddo gael aros ar y cae wedi iddo gicio Jordan Mutch yn gynharach, ond dim ond cerdyn melyn a gafodd.

Unionodd cyn chwaraewr United, Fraizer Campbell, y sgôr i Gaerdydd wedi 33 munud, cyn i Patrice Evra roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen eto wedi cic gornel gan Wayne Rooney yn eiliadau ola' yr hanner cynta'.

Ond llwyddodd Kim i daro'r bêl heibio David de Gea, gan hawlio pwynt hwyr dramatig i Gaerdydd.