Annibyniaethyr Alban: Twf neu ansicrwydd?

Fflagiau
Image caption Bydd yr Alban yn penderfynu ei dyfodol ar Fedi 18, 2014

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu hachos economaidd dros annibyniaeth ac yn dadlau y byddai'n arwain at "fwy o swyddi".

Ond mae adroddiad Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) wedi dweud na fydd Alban annibynnol yn gynaliadwy yn y tymor hir heb iddi dorri gwariant neu gynyddu trethi.

Mae'r Prif Weinidog Alex Salmond yn dweud bod rhaid i'r Alban gael y pwerau dros yr economi er mwyn iddi ffynnu yn y dyfodol, ond mae arweinydd yr ymgyrch i gadw'r undeb yn dweud mai dyfodol ansicr fyddai'n ei hwynebu.

Bydd papur gwyn llywodraeth yr Alban yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth lle bydd eu gweledigaeth wleidyddol ac economaidd ar gyfer Alban annibynnol yn cael ei gyflwyno.

Polisïau mwy addas?

Cafodd dogfen 200 tudalen Llywodraeth yr Alban ei chyhoeddi yn Dundee yn ddiweddar gan Mr Salmond a'i Weinidog Cyllid John Swinney.

Mae'n dadlau byddai defnydd call a synhwyrol o'r ystod o bwerau economaidd newydd fyddai gan lywodraeth Alban annibynnol yn golygu polisïau fyddai'n gweithio'n well er budd y wlad.

Yn ôl y ddogfen byddai'r opsiynau fyddai ar gael yn cynnwys:

  • Sefydlu strategaeth ddiwydiannol fyddai'n cydbwyso'r economi ac yn amrywio'r sylfaen ddiwydiannol gan hybu arloesi a chynhyrchiant;
  • Cyflwyno mesurau er mwyn lleihau nifer y gweithwyr sy'n gadael y wlad a denu mwy o weithwyr er mwyn hybu twf;
  • Defnyddio pwerau treth er mwyn rhoi hwb i'r sectorau twristiaeth, y diwydiannau creadigol yn ogystal â chyflwyno mesurau fel gostwng y dreth gorfforaeth er mwyn gwrthbwyso atyniad Llundain a de-ddwyrain Lloegr;
  • Hybu'r Alban fel brand er mwyn cynyddu proffil y wlad yn rhyngwladol.

Mae Llywodraeth yr Alban yn honni y gallai gweithredu rhai o'r camau yma arwain at greu rhyw 178,000 o swyddi.

Twll du ariannol?

Ond mae adroddiad yr IFS yn dweud y byddai Alban annibynnol yn wynebu "diffyg ariannol" o 1.9% o'r incwm cenedlaethol.

Byddai hyn lawer uwch na'r ffigwr ar gyfer y DU gyfan, sydd â diffyg o 0.8%.

Ystyr diffyg ariannol yn y cyd-destun hwn yw'r gwahaniaeth rhwng faint o arian mae'r wlad yn godi, drwy gyfrwng trethi ac yn y blaen, o'i gymharu â faint mae hi'n ei wario.

Mae'r IFS yn dweud y byddai union faint yr her yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys faint o ddyled y DU fyddai'r Alban yn etifeddu, faint o log fyddai ar y ddyled, oed y boblogaeth a newidiadau i incwm olew a graddfeydd mewnfudo.

Maen nhw wedi selio eu hamcangyfrifon ar ymchwil gafodd ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae incwm olew o Fôr y Gogledd yn cydbwyso'r ffaith bod mwy'n cael ei wario am bob pen o'r boblogaeth yn yr Alban o'i gymharu â gweddill y DU, yn ôl yr IFS.

Mae eu dadansoddiad yn honni y byddai'n rhaid cael gostyngiad o 6% yng nghyfanswm gwariant cyhoeddus y wlad, cynnydd o 9% yng ngraddfa treth incwm neu osod Treth ar Werth - VAT - ar 28% er mwyn cael gwared ar y diffyg.

Byddai mesurau o'r fath yn ychwanegol i'r mesurau cyfyngu ar wariant sydd eisoes wedi cael eu cynllunio gan lywodraeth y DU.

'Cyfleoedd i bawb'

Mae Alex Salmond yn mynnu na fyddai lle i boeni os byddai'r boblogaeth yn pleidleisio Ie ym mis Medi 2014.

Dywedodd: "Gallai'r Alban fforddio bod yn wlad annibynnol yn hawdd, un ag economi sy'n ffynnu lle mae cyfleoedd i bawb.

"Mae gennym ni gymaint o adnoddau naturiol a thalent anferth o ran ein pobl ond mae'r manteision yma'n cael eu mygu gan bolisi economaidd sy'n cael ei benderfynu yn San Steffan.

"Bydd annibyniaeth yn rhoi cyfle i ni adeiladu economi sy'n gweddu i gryfderau penodol a maint yr Alban er mwyn sicrhau economi fwy allblyg, sy'n decach a fwy gwydn gan roi hwb i'n incwm gan greu miloedd o swyddi."

'Economeg ffantasi'

Ond dyw Alastair Darling, AS De Orllewin Caeredin ac arweinydd Better Together - y prif gorff sy'n brwydro dros bleidlais Na - ddim yn cytuno.

Dywedodd: "Mae'r IFS, sy'n ddiduedd ac yn annibynnol, wedi atgoffa pobl yr Alban o'r hyn mae John Swinney wedi bod yn ei ddweud yn ddistaw wrth ei gyd-weithwyr yn y cabinet ers misoedd.

"Pe baen ni'n gadael y DU yr hyn fyddai'n ein hwynebu fyddai trethi llawer uwch, toriadau niweidiol i wasanaethau cyhoeddus neu gyfuniad o'r ddau.

"Mae'r cenedlaetholwyr wedi penderfynu anwybyddu realiti gan gynnig y math o economeg ffantasi sy'n anodd ei gredu."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.