Pisa: Ydy pontio addysg gynradd ac uwchradd yn llwyddiannus?

ysgol gynradd
Image caption Newyddion Ar-lein fu'n edrych ar y ddarpariaeth sy'n pontio addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru

 ninnau'n disgwyl canlyniadau profion Pisa (Programme for International Student Assessment), bu Newyddion Ar-lein yn holi ydy'r system sy'n pontio addysg gynradd ac uwchradd yn llwyddiannus yng Nghymru?

Ledled awdurdodau lleol Cymru, tebyg iawn yw'r canllawiau i ysgolion, a'r rhieny'n cynnwys:

  • Cyfle i'r disgyblion ymweld â'u hysgol uwchradd newydd;
  • Athrawon uwchradd yn ymweld ag ysgolion cynradd yr ardal;
  • Prosiectau gwaith sy'n dechrau ym mlwyddyn 6 ac yn gorffen ym mlwyddyn 7;
  • Sicrhau fod yr ysgol uwchradd yn derbyn manylion am rinweddau pob disgybl, yn ogystal ag unrhyw broblemau.

Ond mae'n debyg bod y ddarpariaeth yn amrywio o ysgol i ysgol, a hynny weithiau yn yr un awdurdod leol.

Felly, oes angen fframwaith fanylach i sicrhau cysondeb o ysgol i ysgol?

Yn ôl Estyn, mae lles ac agwedd fugeiliol y pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd lawer yn well na'r ochr academaidd, yn nhermau cynllunio ar y cyd i sicrhau cysondeb mewn dysgu.

'Gwendidau wrth sicrhau parhad'

Mewn datganiad mae Estyn yn datgelu bod "gwendidau wrth sicrhau parhad yng ngwaith disgyblion".

"Er enghraifft, dydi athrawon mewn ysgolion uwchradd ddim wastad yn gwybod pa sgiliau sydd eisoes gan eu disgyblion, na sut i ddatblygu eu dealltwriaeth."

Yn ôl Estyn, mae hyn yn wir yn arbennig "wrth ystyried llythrenedd a rhifedd".

Mewn arfarniad o effaith Fframwaith Sgiliau anstatudol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru yng nghyfnod allweddol 3 y llynedd, dywedodd Estyn bod dyletwydd ar ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod dilyniant rhwng addysg gynradd ac uwchradd.

Un o'r pryderon a nodwyd yn yr adroddiad, oedd mai "dim ond ychydig ysgolion sy'n gweithio'n agos â'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo i gynllunio cwricwlwm sy'n adeiladu'n briodol ar fedrau disgyblion pan fyddant yn symud o gyfnod allweddol 2 (CA2) i gyfnod allweddol 3 (CA3)".

Beth nesaf?

Ymysg yr argymhellion, roedd nodyn i ysgolion uwchradd yn dweud y dylen nhw "weithio gyda'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo i sicrhau parhad a dilyniant addas wrth ddatblygu medrau generig".

Yn ogystal, roedd yr arfarniad yn argymell y dylai awdurdodau lleol "gynllunio cwricwlwm sy'n datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn raddol ar draws pob pwnc yng nghyfnod allweddol 3; ac asesu ac olrhain datblygiad medrau generig disgyblion rhwng CA2 a CA3, a thrwy gydol CA3".

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig "strwythur symlach y gall ysolgion ei ddefnyddio'n hawdd i gynllunio, asesu ar olrhain cynnydd disgyblion mewn datblygu medrau".

Byddai Estyn rwan yn hoffi gweld mwy o gysondeb mewn ysgolion ledled Cymru, yn enwedig wrth edrych ar sut mae'n nhw'n hybu datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Ers mis Medi eleni, mae'n orfodol i ysgolion ddilyn Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sy'n dod yn lle ambell nodwedd o'r Fframwaith Sgiliau. Bydd profion i nodi llwyddiant y fframwaith hwnnw yn dechrau yn 2014.

Roedd profion diwethaf PISA (Programme for International Student Assessment) yn 2009 - sy'n cymharu canlyniadau disgyblion 15 oed mewn gwahanol wledydd - yn dangos fod Cymru ar ei hôl hi.

O'r 67 gwlad a gafodd eu hasesu, roedd Cymru yn 38ain ym maes darllen, 40fed ym mathemateg a 30ain yn y profion gwyddoniaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.