Archif Gorllewin Morgannwg yn prynu dogfennau gwaith haearn

Cafodd y llun hwn o'r gweithwyr ei dynnu tua 1870 Image copyright Archifau Prydeinig
Image caption Cafodd y llun hwn o'r gweithwyr ei dynnu tua 1870
Fe gaeodd y gwaith yn 1885 Image copyright The National Archives
Image caption Fe gaeodd y gwaith yn 1885
Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854 Image copyright Archifau Prydeinig
Image caption Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854
Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854 Image copyright Archifau Prydeinig
Image caption Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854
Un o weithwyr y gwaith ysgrifennodd nodiadau yn Dover am gerbyd fyddai'n croesi'r sianel Image copyright Archifau Prydeinig
Image caption Un o weithwyr y gwaith ysgrifennodd nodiadau yn Dover am gerbyd fyddai'n croesi'r sianel
Engineering drawing for the engines for the Ancient Briton - a Bristol and Swansea steam packet dating from 1822 Image copyright The National Archives
Image caption Manylion ar gyfer peiriannau'r Ancient Briton, llong oedd yn hwylio rhwng Bryste ac Abertawe o 1822 ymlaen

Mae Archif Gorllewin Morgannwg wedi prynu mwy o 8,000 o ddogfennau sy'n taflu golau ar waith haearn.

Roedd gwaith Abaty Nedd yn cynhyrchu trenau pan oedd rheilffyrdd yn cael eu codi.

Dywedodd yr archifydd Kim Collis: "Mae'r dogfennau'n brin ac yn rhan bwysig o'r Chwyldro Diwydiannol."

Cafodd y ffowndri ei chodi 1792 a'i phrydlesu i gwmni o Grynwyr, Fox a'r Cwmni o Falmouth yng Nghernyw.

Roedd y gwaith yn ei anterth pan oedd rheilffyrdd a llongau stêm yn cael eu datblygu.

Yn y cyfamser, daeth Abertawe a Chastell-nedd yn ganolfannau pwysig o ran cynhyrchu metel.

'Adnodd'

Cynhyrchodd y gwaith haearn drenau, peiriannau llongau, peirianwaith ar gyfer gweithiau nwy a pheiriannau weindio dan ddaear.

Dywedodd Ms Collis: "Tra oedd llawer o fasnachu yn ne Cymru, roedd llawer o archebion o wledydd Prydain, Mecsico a De America.

"Mae'r dogfennau'n adnodd heb ei ail ar gyfer rhai sy'n ymddiddori yn nhechnegau cynhyrchu, mwyngloddio, a hanes trafnidiaeth a diwydiant yng Nghymru.

"Ac maen nhw'n dystiolaeth o safon uchel gweithwyr y ffowndri."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.