Wylit Wylit Lywelyn

Bob dydd ar y ffordd mewn i'r gwaith rwy'n pasio un o barciau lleiaf ond mwyaf prysur Caerdydd. Despenser Gardens yn ardal Glanyrafon yw hwnnw ac fel y rhan fwyaf o bethau Caerdydd o oes Fictoria mae wedi ei enwi ar ôl un o ddeiliad Stad y Castell.

Mae sawl cnaf wedi byw yn y lle hwnnw ar hyd y canrifoedd ond go brin fod un ohonyn nhw mor ddychrynllyd â Hugh Despenser - y gŵr wnaeth roi ei enw i'r parc.

Un o ffefrynnau Edward II oedd Hugh. Mae'n ddigon posib bod y ddau'n gariadon. Dyna o leiaf oedd cyhuddiad eu gelynion. Beth bynnag yw'r gwir am hynny doedd na ddim llawer o gariad rhwng Hugh a'r Cymry lleol.

Ymddygiad Despesner ynghyd a Payn de Turberville, arglwydd Coety oedd yn bennaf gyfrifol am ysgogi gwrthryfel Llywelyn Bren - y gwrthryfel mwyaf o bell fordd yn y degawdau ar ôl lladd Llywelyn II. Despenser hefyd oedd yn gyfrifol am ddienyddio Llywelyn Bren yn groes i orchymyn y brenin ac am feddiannu tiroedd gwyr Senghennydd a dileu eu breiniau.

Mae'n adrodd cyfrolau taw'r gormeswr yn hytrach na'r arweinydd brodorol sy'n cael ei goffau yn Despenser Gardens ac hyd y gwn does 'na ddim math ar gofeb i Llywelyn Bren yn unman. Efallai gallai hynny newid cyn saith ganmlwyddiant y gwrthryfel yn 2016.

Pam codi'r peth heddiw? Wel mae'n debyg na fyddai'r gwrthryfel wedi digwydd o gwbl onibai am fuddugoliaeth yr Albanwyr ym mrwydr Bannockburn - y frwydr wnaeth sicrhau annibyniaeth y wlad. Marwolaeth Gilbert de Clare, arglwydd Morgannwg yn y frwydr honno wnaeth agor y drws i ddrigioni de Turberville a Despenser.

Dyna i chi brawf fod digwyddiadau yn yr Alban yn gallu cael effeith pellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymu - hyd yn oed yn y bedwaredd ganrif ar ddeg!

Mae hynny'n dod a fi at gyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban ynghylch annibyniaeth. Yr hyn sy'n drawiadol i mi am y ddadl hyd yma yw pa mor absennol o'r trafod yw unrhyw elfen o wladgarwch neu hyd yn oed ymwybyddiaeth Brydeinig.

Cymerwch fel enghraifft dudalen agoriadol yr ymgyrch "Na" swyddogol "Better Together". "We Love Our Country" yw'r pennawd ac mae'n amlwg o'r hyn sy'n dilyn mae'r Alban nid y Deyrnas Unedig yw'r wlad y cyfeirir ati. Yn wir dyw'r gair "British" ddim yn ymddangos tan y seithfed paragraff a hyd yn oed wedyn mae ei ddefnydd yn ddigon amwys.

"We all feel proudly Scottish but most of us also feel at least a bit British. We don't have to choose between the two."

Ai dyna'r cyfan sydd ar ôl? Mewn gwirionedd? Ar ôl canrifoedd o gyd-fyw, cyd-ryfela, cyd-bleidleisio a chyd-chwarae? "A bit British" - ai dyna'r cyfan sy 'na?

Rwy'n gofyn y cwestiwn am fy mod yn ddigon hen i gofio pan oedd Prydeindod a'i symbylau yn golygu rhywbeth i'r mwyafrif llethol o drigolion Prydain Fawr - y dyddiau pan oedd Jac yr Undeb yn fwy cyffredin na'r Ddraig Goch a "God Save The Queen" yn cael ei chanu ar ddiwedd sioe sinema.

Ydyn ni wedi mynd o gymdeithas felly i un lle mae ymgyrch unoliaethol yn osgoi defnyddio gwladgarwch Prydeinig fel dadl mewn un genhedlaeth? Mae'n ymddangos felly.

Yn ôl ar ddechrau'r wythdegau fe ysgrifennodd Gwynfor Evans lyfr o'r enw "Diwedd Prydeindod". Doeddwn i erioed yn disgwyl byw i weld gwireddu'r broffwydoliaeth honno.

Y cwestiwn nesaf yw oes modd i wladwriaeth oroesi ar sail cyfleustra yn hytrach na gwladgarwch? Efallai y cawn ni i'r ateb i'r cwestiwn yna fis Medi nesaf.