Rhydychen 0-0 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Rhydychen 0-0 Casnewydd

Mae rhediad da Casnewydd yn parhau, a dim ond un o'r wyth gêm ddiwethaf y maen nhw wedi colli bellach.

Er nad yw tîm Justin Edinburgh wedi ennill yn ddigon aml oddi cartref y tymor hwn, maen nhw'n profi i fod yn dîm anodd iawn i'w curo ar hyn o bryd.

Y diweddaraf i weld hynny yw'r tîm sydd ar frig Adran 2, sef Rhydychen.

Roedd hi'n gêm o ychydig gyfleoedd clir, a dim ond un ergyd at y gôl a gafodd y ddau dîm.

Roedd hi hefyd yn gêm heriol i'r dyfarnwr, a ddangosodd y cerdyn melyn i wyth o chwaraewyr - tri o Rydychen a phump o Gasnewydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn disgyn allan o safleoedd y gemau ail gyfle - maen nhw bellach yn wythfed - ond fe fydd y rheolwr yn hapus gyda phwynt arall oddi cartref, a chael ymestyn record y clwb.