Gohirio gornest Nathan Cleverly oherwydd anaf

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cleverly wedi ennill 26 o'i 27 gornest broffesiynol

Mae'r bocsiwr Nathan Cleverly wedi gohirio ei ornest nesaf oherwydd anaf.

Roedd disgwyl i gyn-bencampwr is-drwm y WBO wynebu Daniel Ammann ar gyfer teitl gordrwm y Gymanwlad yn Llundain ddydd Sadwrn.

Ond mae'r Cymro wedi gorfod gohirio'r ornest tan y flwyddyn newydd, wedi iddo anafu ei gefn wrth hyfforddi.

"Mae'n ergyd fawr gan fod yr hyfforddi wedi bod yn mynd mor dda," meddai.

"'Dwi eisiau dechrau o'r dechrau wrth fynd i mewn i 2014 a chael fy ngyrfa yn ôl ar y trywydd cywir."

Collodd y bocsiwr 26 oed ei deitl is-drwm yn erbyn Sergey Kovalev ym mis Awst.

Roedd Cleverly, sydd wedi ennill 26 o'i 27 gornest broffesiynol, wedi awgrymu y gallai ymddeol o'r gamp ar ôl colli ym mis Awst ond newidiodd ei feddwl.

Straeon perthnasol