Pisa: Athrawon 'dan bwysau mawr'

arholiadau

Pan gyhoeddwyd canlyniadau diwethaf profion Pisa yn 2010, daeth ymateb Llywodraeth Cymru yn syth.

Fe wnaeth y gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, gyflwyno cyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r 'broblem' fod Cymru mor isel ar y tabl canlyniadau - y gwaethaf o wledydd y DU.

Ond sut effaith mae'r newidiadau wedi eu cael ar athrawon?

Fe glywodd Newyddion Ar-lein gan athro oedd am aros yn ddienw, ond sy'n dysgu mewn ysgol gyfun fawr yn y de-orllewin, sy'n dweud bod ysbryd staff yn isel.

'Angen strategaeth'

"Roedd ymateb llywodraeth Cymru ar ôl canlyniadau diwethaf Pisa yn 'knee jerk' dwi'n meddwl. Daeth mesurau Leighton Andrews yn rhy gyflym gan daflu pethau ychwanegol - yn ymwneud â llythrennedd yn bennaf - ar ben y pwysau gwaith arferol ar athrawon.

"Dydw i ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru'n gwybod yn iawn beth maen nhw eisiau, a heb feddwl y peth drwodd yn strategol am y ffordd orau ymlaen.

"Mae eu cynlluniau nhw mwy i neud gyda sgiliau a phethau galwedigaethol tra bod profion Pisa fwy i neud gyda'r tri 'R' traddodiadol - ysgrifennu, darllen a mathemateg.

"Nawr dydw i ddim yn dweud pa un sydd orau, ond allwch chi ddim gofyn i athrawon wneud popeth.

"Mae 'morale' y staff yn isel iawn o dan yr holl bwysau.

"Fe gawson ni arolwg yn gymharol ddiweddar, ac mae'n amhosib bellach gwybod beth mae'r arolygwyr yn chwilio amdano fe.

"Mae'n wahanol bob tro, ac mae pentwr o waith papur ychwanegol yn sgil hynny wrth gwrs.

"Fedra i ond siarad am yr ysgol yma, ond mae mwy o athrawon yn absennol o'r ysgol oherwydd straen nag yn y gorffennol - a rhai fyddech chi ddim yn disgwyl iddyn nhw ddiodde' o straen."

'Beio athrawon'

Pwynt arall a nodwyd gan yr athro fu'n siarad gyda Newyddion Ar-lein oedd bod y pwyslais yma ar ganlyniadau Pisa wedi bod yn rhywbeth newydd, a bod y newidiadau a gyflwynwyd yn anwybyddu rhai nodweddion pwysig o'r canlyniadau.

Ychwanegodd: "Mae profion Pisa wedi bod yn mynd ymlaen ers tro, ond dim ond y canlyniadau diwethaf sydd wedi 'ffiltro' lawr i'r ysgolion - pam?

"Fe dreuliais i gyfnod yn gweld ysgol yn un o'r gwledydd mwyaf llwyddiannus ar dabl Pisa, ac mae yna nodweddion gwahanol iawn i ni yng Nghymru.

"Mae ysgolion bach yn gweithio'n dda yno. Fues i mewn ysgol gyfun oedd â llai na 100 o ddisgyblion.

"Hefyd mae'r dosbarthiadau'n gymysg o ran gallu a does dim arholiadau allanol. Mae addysg ac athrawon hefyd â safle uchel iawn mewn cymdeithas yn rhai o'r gwledydd yma, ac yn cael parch mawr.

"Beth fydd yn digwydd pan ddaw'r canlyniadau Pisa newydd? Dwn i ddim, ond fentra i ddweud taw athrawon fydd yn cael y bai os ydyn nhw'n wael eto.

"Wedyn fe fydd cyfres newydd o fesurau, debyg iawn, fydd yn dod â mwy o bwysau gwaith a mwy o straen i athrawon.

"Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddatgan yn glir beth yw'r strategaeth gadarn hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru.

"Y cyfan sy'n digwydd ar hyn o bryd yw eu bod nhw'n creu mwy o 'hops' i ddisgyblion ac ysgolion neidio drwyddyn nhw, a hynny dim ond er mwyn mesur rhywbeth.

"Dyw mesur yn y ffordd yna ddim yn dangos beth yw gwir ansawdd addysg plentyn. Mae'r sustem i gyd dan straen."

Straeon perthnasol