Lladrad yn siop Vivienne Westwood: Arestio dau

Vivienne Image copyright Other
Image caption Cafodd nifer o ddillad ac eitemau o'r siop eu darganfod gan swyddogion yr heddlu

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn dilyn lladrad lle cafodd nifer o eitemau drud eu dwyn mewn siop yng Nghaerdydd.

Cafodd dillad a bagiau o siop Vivienne Westwood eu cymryd nos Sadwrn y nawfed o Dachwedd.

Daeth yr heddlu o hyd i gar coch Mercedes maen nhw'n meddwl bod y car yn gysylltiedig gyda'r lladrad ac fe arestiwyd dyn 30 oed o'r Sblot yng Nghaerdydd yn fuan wedyn.

Mae o ar fechniaeth ar hyn o bryd.

Mae dyn arall, 23 o ardal Casnewydd wedi ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o fyrgleriaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111 gan roi'r cyfeirnod 62130354153.