Abertawe 0 - 1 Valencia

Nathan Dyer
Image caption Doedd Abertawe methu sicrhau eu lle yn y rownd nesaf nos Iau

Mae Abertawe wedi methu cyfle i sicrhau eu lle yn 32 olaf Cynghrair Ewropa nos Iau wedi iddyn nhw golli yn erbyn Valencia.

Wedi'r fuddugoliaeth o 3-0 yn Sbaen, dim ond pwynt oedd yr Elyrch eu hangen i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf nos Iau.

Ond roedd gôl Daniel Parejo yn yr hanner cyntaf yn ddigon i'w suddo yn Stadiwm y Liberty.

Roedd siom bellach wrth i Wilfried Bony adael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf.

Pum newid

Roedd y rheolwr Michael Laudrup wedi gwneud pum newid i'r tîm gurodd Fulham dros y penwythnos.

Dechreuodd Jonjo Shelvey, Gerhard Tremmel, Jordi Amat, Neil Taylor a Leon Britton y gêm yn erbyn Valencia, gyda'r Elyrch yn gobeithio am bwynt i symud ymlaen o'r grŵp.

Daeth unig gôl y gêm wedi cornel gan Sergio Canales wedi 20 munud.

Doedd Tremmel methu a delio hefo'r croesiad yn iawn, a disgynnodd y bel i Daniel Parejo i rwydo i'r gornel dde heibio'r gôl geidwad.

Roedd rhaid i Tremmel fod ar ei orau i arbed ergyd arall gan Parejo yn fuan wedyn, cyn i Bony orfod gadael y cae gydag anaf.

Penderfyniad dadleuol

Vazquez ddaeth ymlaen yn ei le ac roedd yn edrych fel ei fod wedi dod a'r tîm cartref yn gyfartal cyn yr egwyl.

Methodd Shelvey gyda'i ergyd o du mewn i'r cwrt cosbi, ond rhwydodd Vazquez pan syrthiodd y bel iddo o flaen y gôl.

Ond penderfynodd y llumanwr fod yr eilydd wedi bod yn camsefyll.

Cafodd Abertawe gyfleoedd eraill, gyda Mathieu yn clirio ergyd Vazquez oddi ar y llinell yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Bydd gan Abertawe gyfle i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf yn eu gem olaf yn y grŵp yn erbyn St Gallen ar Ragfyr 12.

Abertawe 0 - 1 Valencia

Abertawe Valencia
Tremmel RangelTaylor Britton Chico Amat Dyer (Hernández - 66') Shelvey Bony (Alvaro - 42') Pozuelo Lamah (De Guzmán - 45') Alves Carreira da Silva Pereira GuardadoParejoRuiz Mathieu Feghouli (Piatti - 68') Romeu Canales (Fuego Martínez - 85') Gonçalves Oliveira (Postiga - 77') Bernat

Straeon perthnasol