Marwolaeth: Swyddogion clwb Caersws yn y llys

Casey Breese
Image caption Roedd Casey Breese yn chwarae gyda'i ffrindiau yn 2011 pan gafodd ei daro gan ffrâm gôl

Mae naw o swyddogion Clwb Pêl-droed Caersws wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o dorri rheolau iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth bachgen 12 oed.

Bu farw Casey Breese yn 2011 pan ddisgynnodd ffrâm gôl arno.

Mae Cyngor Powys wedi dwyn achos o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch ddaeth i rym yn 1974.

Cafodd y gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ei ohirio tan Ionawr 9.

Roedd Casey gyda'i ffrindiau ar gae chwarae yng Nghaersws pan gafodd ei daro gan y ffrâm.

Cytunodd y Barnwr Niclas Parry i ohirio'r achos tan fis Ionawr, ar yr amod y byddai gwrandawiad lle byddai ple yn cael ei gyflwyno'n llawn.

Straeon perthnasol