Saethu Casnewydd: dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio

Caroline Parry
Image caption Bu farw Caroline Parry o'i hanafiadau

Mae dyn wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio wedi i fenyw gael ei saethu yng Nghasnewydd.

Cafodd Caroline Parry, 46 oed, ei saethu yn Seabreeze Avenue ar Awst 8.

Roedd Christopher Parry, 49 oed, yn Llys Ynadon Casnewydd fore Gwener.

Bydd yn Llys y Goron Caerdydd ar Ragfyr 2.

Daeth yr heddlu o hyd i Mrs Parry a'i gŵr yn gorwedd ar y ffordd wedi i gymdogion glywed gwn yn cael ei saethu.

Deellir bod Mrs Parry wedi symud i Gasnewydd o gartre'r ddau yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân.

Hefyd mae Mr Parry'n wynebu cyhuddiad arall o dan Ddeddf Arfau 1968, bod â gwn neu wn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd.