Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ddi-ddyled

Bathodyn Image copyright BBC Sport
Image caption Bydd y bathodyn yn cael ei ddefnyddio yn ystod 2014

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam bellach yn ddi-ddyled.

Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr y newyddion ar drothwy dwy flynedd ers iddyn nhw gymryd rheolaeth o'r clwb.

Cyn hynny roedd y clwb wedi trwy gyfnod anodd yn ariannol, gyda pethau'n edrych yn ddu iawn arnyn nhw ar ddechrau 2011 wrth iddyn nhw wynebu bil treth o £200,000.

Fe lwyddon nhw i godi'r swm yna drwy roddion a benthyciadau, sydd bellach wedi cael eu talu nôl i gyd.

Roedd cyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA a rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley y tymor diwethaf yn hwb anferth i'r tim wrth iddyn nhw ennill dros £300,000 drwy werthiant tocynau a nwyddau ar gyfer yr ymweliad cyntaf.

Dywedodd y clwb nad oedd yr ail ymweliad mor broffidiol gan mai ond chwe niwrnod a gafwyd i farchnata a gwerthu tocynnau.

Er mwyn dathlu'r 150 mlynedd ers sefydlu'r clwb - sy'n honni eu bod nhw'r trydydd hynaf yn y byd - mae bathodyn newydd wedi cael ei gyflwyno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.