Lladrad mewn salon trin gwallt yn Llangefni

Ymchwilio i Ladrad yn Llangefni
Image caption Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i siarad gyda tri o bobl welwyd yn rhedeg i ffwrdd o'r adeilad

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am lygaid-dystion wedi i ladron dorri ffenest salon trin gwallt ar Ynys Môn, gan ddwyn offer trin gwallt drud.

Digwyddodd y lladrad yn oriau man bore dydd Mercher, Tachwedd 27, yn salon trin gwallt Sandra's yng nghanol tref Llangefni.

Cafodd ffenest ei malu rhwng 3yb a 4yb gan wneud cryn dipyn o ddifrod i'r arddangosfa yno a cafodd nifer o declynau sythu gwallt GHD yn ogystal â sychwyr gwallt eu cymryd.

Chwilio am dri

Meddai Cwnstabl Angela Jones o orsaf Heddlu Llangefni: "Gwelwyd tri o bobl yn rhedeg i ffwrdd o'r adeilad tuag at agoriad maes parcio'r rheilffordd ar Stryd y Cae.

"Roeddynt wedi eu disgrifio yn gwisgo hwdis, un yn gwisgo dillad golau a'r ddau arall rhai tywyll.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r math yma o ladrata wedi cynyddu."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r Heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad RC13194104.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.