Airbus UK 2 - 1 Y Bala

Uwch Gynghrair Cymru
Image caption Uwch Gynghrair Cymru

Mae Airbus wedi symud yn ôl i frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth dros y Bala.

Ryan Wade sgoriodd y gôl hollbwysig mewn gêm agos nos Wener.

Steve Abbott roddodd y tîm cartref ar y blaen yn hwyr yn yr ail hanner, cyn i Mark Connolly ddod a'r Bala yn gyfartal yn fuan wedi'r egwyl.

Ond doedd yr ymwelwyr methu a manteisio, a gôl Wade 16 munud cyn y diwedd gipiodd y pwyntiau i Airbus.