Dyn 21 yn marw yn dilyn damwain ffordd

  • 30 Tachwedd 2013

Mae dyn 21 oed wedi marw yn dilyn damwain yng Nglyn Ebbw nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu galw am 7:43yh yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd.

Roedd pump o bobl wedi cael eu hanafu gan gynnwys y bachgen a fu farw'n ddiweddarach.

Roedd yr heddlu wedi dweud yn wreiddiol mai 17 oedd oed y person fu farw.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Waen-y-Pound ac mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101.