Ramsey'n torri calonnau Caerdydd

  • 30 Tachwedd 2013
Ramsey
Wnaeth Ramsey ddim dathlu ar ôl yr un o'i ddwy gôl

Mae Caerdydd wedi colli o dair gôl i ddim yn erbyn Arsenal gyda'u cyn chwaraewr Aaron Ramsey'n sgorio ddwywaith.

Gyda bron i hanner awr ar y cloc fe wyrodd Ramsey groesiad Mesut Özil yn grefftus gyda'i ben i roi'r Saeson ar y blaen - roedd hi'n gôl a hanner.

Wnaeth o ddim dathlu ac fe wnaeth cefnogwyr Caerdydd ddangos yr un parch yn ôl tuag ato drwy glapio ei ymdrech.

Fe wnaeth Caerdydd frwydro'n galed a nhw oedd y tîm gorau am gyfnodau hir yn ystod yr ail hanner ond roedden nhw'n methu darganfod y cyffyrddiad olaf clinigol oedd ei angen i guro Szczęsny.

Daeth Fraizer Campbell yn agos iawn gyda pheniad da ond roedd y dyn o wlad Pwyl ar ei orau a llwyddodd i atal y bêl rhag darganfod cefn y rhwyd.

Ildiodd y Gleision ail gol arall bum munud cyn y diwedd - Flamini'r gorffen gydag ergyd egnïon yn dilyn pas wych gan Özil.

A daeth un arall ar ddiwedd y gêm, gyda neb llai na Aaron Ramsey'n sgorio eto, ei 16eg gôl y tymor hwn.

Doedd y sgôr terfynol ddim yn adllewyrchu'r ffaith ei bod hi'n gêm weddol agos, ond bydd cefnogwyr Arsenal yn siwr o ddadlau mai dyna sut mae pencampwyr yn ennill gemau.