TNS yn ôl ar y brig

  • 30 Tachwedd 2013
Cae Lido Afan
Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn a bydd Aberystwyth yn siomedig i fod wedi colli

Y Seintiau Newydd 3 - 0 Prestatyn

Un gôl gynnar a dwy gôl hwyr wnaeth benderfynu canlyniad y gêm hon. Matty Williams roddodd y pencampwyr ar y blaen ar ôl 5 munud ac fe sgoriodd y dyn o Seland Newydd, Greg Draper ddwywaith yn ystod y munudau olaf wedi iddo ddod oddi ar y fainc.

Fe wnaeth Mike Wilde a Sam Finley chwarae'n dda i'r tîm cartref a gallai'r sgôr fod wedi bod yn llawer uwch. Lee Hunt ddaeth agosaf at sgorio ond llwyddodd Paul Harrison i arbed er gwaethaf ei ymdrechion.

Mae TNS yn neidio'n ôl i frig y gynghrair wedi i Airbus fynd yn gyntaf am gyfnod ar ôl curo'r Bala nos Wener. Hon oedd seithfed buddugoliaeth TNS yn olynol.

Y Rhyl 0 - Bangor 0

Er gwaetha'r holl edrych ymlaen at weld y ddau dîm yma'n wynebu ei gilydd, siomedig oedd y gêm o ran diddanwch a goliau. Gôl-geidwad Rhyl oedd seren y gêm wrth iddo arbed yn wych ar fwy nag un achlysur i sicrhau nad oedd tîm Les Davies yn cipio'r triphwynt. Dylai Chris Jones fod wedi sgorio a bydd Bangor yn siomedig o fod wedi gollwng dau o bwyntiau.

Alex Ramsay
Arbediad gwefreiddiol gan Alex Ramsay

Lido Afan 2 - Aberystwyth 1

Aberystwyth sgoriodd y gôl gyntaf wrth i Venables eu rhoi ar y blaen ar ol 41 munud. Ond fe wnaeth Lido Afan yn arbennig i frwydro'n ôl yn ystod yr ail hanner gyda Hillier a Chrysanthou yn rhwydo i'r tîm cartref. Hon yw eu hail buddugoliaeth yn olynol ac maen nhw bellach yn hafal ar bwyntiau gyda Bala a Port Talbot er eu bod nhw'n parhau i fod ar waelod y tabl.

Gap Cei Cona 0 Port Talbot 2

Roedd llawer yn disgwyl gwell gan Bort Talbot y tymor hwn ac o'r diwedd maen nhw'n dechrau dangos y math o chwarae sydd o fewn eu gallu. Martin Rose a Lee John gafodd y goliau, sy'n golygu fod record sâl Cei Cona yn parhau - maen nhw bellach wedi colli saith gêm yn olynol ac wedi ildio 37 gol mewn 16 gêm.

Caerfyrddin 0 Y Drenewydd 2

Daeth sioc arall yng Nghaerfyrddin wrth i'r Hen Aur golli'n erbyn y Drenewydd. Yr wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf iddyn nhw golli gartref y tymor yma, a hwn oedd yr ail. Daeth y goliau gan Hearsey a Boundford.