Gêm gyfartal i'r Gleision

  • 30 Tachwedd 2013
Gareth Davies
Roedd pwyntiau Gareth Davies yn rhai pwysig i'r Gleision

Fe ddaeth y tîm cartref yn ôl i sicrhau gem gyfartal wedi i'r Gleision fod 20 - 9 ar y blaen.

Ond roedd angen cic hwyr gan Gareth Davies i sicrhau fod y pwyntiau'n cael eu rhannu.

Mat Berquist gafodd pwyntiau cyntaf y gêm i'r Eidalwyr ond fe darodd Chris Czekaj yn ôl yn fuan wedyn gyda Gareth Davies yn trosi.

Wedi dwy gic gosb yr un i Davies a Berquist daeth ail gais y gêm i'r Gleision i Robin Copeland.

Ond daeth Alessandro Zanni a Edoardo Gori yn ôl i roi'r mantais i Treviso, ac roedden nhw o fewn trwch blewyn o guro cyn i Davies ei gwneud hi'n gyfartal gyda chic yn y munudau olaf.