Beiciwr yn marw yn Sir Ddinbych

Mae beiciwr wedi marw ar lôn wledig yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr heddlu eu galw am ychydig wedi hanner dydd, ddydd Sadwrn gan y gwasanaeth ambiwlans a ddywedodd bod dyn wedi dod oddi ar ei feic ar Lôn Cae Glas.

Roedd y dyn, oedd yn dod o ardal Stockport, wedi marw yno.

Dyw Heddlu Gogledd Cymru heb ddweud faint oedd ei oed - maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio ar 101.