Leinster 36 - 19 Scarlets

Scarlets forward Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rob McCusker yn brwydro'n erbyn y Gwyddelod nos Sadwrn

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Leinster nos Sadwrn, gyda'r tîm cartref yn llwyddo i sicrhau pwynt bonws hefyd.

Roedd y Gwyddelod wedi derbyn hwb gan fod llu o chwaraewyr rhyngwladol wedi dychwelyd gan fod Iwerddon wedi chwarae eu gêm olaf yng nghyfres yr hydref wythnos ddiwethaf.

Nid oedd y Scarlets yn yr un sefyllfa ac fe dalon nhw'r pris am hynny.

Y canolwr Brendan Macken gafodd gais gyntaf y gêm wrth iddo lwyddo i osgoi tacl gan Adam Warren yng nghanol y cae.

Roedd hi'n amlwg fod y Cymry mewn trwbl yn fuan wedyn wrth i'r dyfarnwr wobrwyo cais gosb yn eu herbyn

Daeth cais arall gan Jack McGrath ac roedd hi'n 22 - 0 ar yr egwyl.

Er gwaetha' eu problemau, y Scarlets gafodd y gorau o'r ail hanner gyda cheisiau gan Gareth Davies, Gareth Maul ac Adam Warren.

Pe na bai'r hanner cyntaf yn cyfri y nhw fyddai wedi ennill o bum pwynt, ond ni fydd hynny yn rhoi cysur iddyn nhw wedi iddyn golli am y pedwerydd tro yn y Pro 12 y tymor hwn.

Straeon perthnasol