Wrecsam yn dechrau amddiffyn eu tlws

Hunt
Image caption Johnny Hunt gafodd gôl gyntaf y gêm

Mae Wrecsam wedi cael dechrau llwyddiannus wrth iddyn nhw geisio amddiffyn Tlws yr FA ond roedd yn rhaid i'r deiliaid weithio'n galed er mwyn ennill.

Fe sgoriodd y tim o Gymru ddwywaith yn yr hanner cyntaf, ergyd daclus Johnny Hunt yn eu rhoi nhw ar y blaen a'r rheolwr Andy Morrell yn adio'r ail cyn yr egwyl.

Ond ni lwyddodd nhw i ychwanegu at hynny a rhoddodd Gresley - tim o Swydd Derby sydd dri lefel o dan Wrecsam yn y system gynghreiriol - fraw iddyn nhw drwy gael un yn ôl gyda 84 munud ar y cloc.

Roedd eu cefnogwr yn falch o glywed y chwiban olaf yn cael ei chwythu a bydd Wrecsam yn edrych ymlaen at yr ail rownd.