Damwain: dyn wedi marw pnawn Sul

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ym mhentref Llannerch Banna yn Wrecsam bnawn Sul.

Roedd James Rigby yn 39 oed ac yn dod o ardal Llangollen.

Yn ol swyddogion mi wnaeth y Landrover Discovery yr oedd o'n gyrru taro postyn telegraff ar yr A539 toc wedi 2pm ddydd Sul.

Cafodd ei anfon i ysbyty Maelor yn Wrecsam yn dilyn y ddamwain ond bu farw.