Siop gafodd ei ddifrodi gan dan ar gau nes y flwyddyn newydd

Siop Edinburgh Woolen Mills Llanfairpwll
Image caption Siop Edinburgh Woolen Mills yn Llanfairpwll

Bydd siop sy'n bwysig ir diwydiant twristiaeth ar Ynys Môn ar gau tan y flwyddyn newydd o leiaf.

Ar fore dydd Gwener, Hydref 25, aeth cegin caffi siop Edinburgh Woolen Mills (EWM) yn Llanfairpwll a'r dân.

Fe achosodd y mwg a thân ddifrod difrfiol.

Roedd son y byddai'r siop - a adnabyddir yn lleol fel "Pringles" - wedi ail-agor yn sydyn er mwyn manteisio ar y cyfnod siopa cyn y Nadolig.

Ond er bod y bysys yn dal i heidio i Lanfairpwll, y pentref gyda'r enw mwyaf yn Ewrop, ni fydd y siop yn agor am rai wythnosau eto.

Mae Edinburgh Woolen Mills yn dweud eu bod am fanteisio ar y cyfle i ailwampio ac addurno'r siop.

Pwysig i'r economi

Dywedodd Alun Mummery, cynghorydd sir ward Aethwy, sy'n cynnwys Llanfairpwll: "Mae'r cwmni wedi bod yn ddistaw iawn am ddyfodol y siop.

"Ond yn y dyddiau diwethaf maent wedi rhoi neges ar eu gwefan a thu allan i'r siop yn dweud na fyddent yn agor cyn mis Ionawr oherwydd eu bod am wneud gwaith i'r siop.

"Mae Pringles, yn siop bwysig i'r economi yn lleol, mae'n rhoi gwaith i nifer o bobl o'r ardal.

"Mi oeddwn yn poeni am ddyfodol y gweithwyr yno, ond be sydd wedi digwydd ydi bod EWM wedi eu gyrru i weithio dros dro yn eu siopau eraill megis, Llandudno, Conwy a Chaernarfon.

"Er bod y siop wedi cau mae'r ymwelwyr yn dal i heidio yma, er mwyn tynnu llun o arwydd y pentref ma' siŵr.

"Mae yna siopau eraill bwyd yma ac maent yn brysur ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Mr Mummery y bydd colli'r siop am gyfnod yn ergyd i siopwyr lleol.

"Mae na lot o bobl yn y pentref ac o Ynys Môn yn gyffredinol yn mynd yno 'Dolig i brynu anrhegion oherwydd ei fod yn gyfleus, " meddai.

Dim dyddiad ail-agor

Dywedodd llefarydd ar ran Edinburgh Woolen Mills: "Oherwydd y tân diweddar, mi fydd ein siop yn Llanfairpwll, ar gau am y tro.

"Rydym yn gweithio i'w ail hagor cyn gynted a phosib, ond hyd yn hyn does yna ddim dyddiad wedi cael ei gytuno."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.