Phillips yn arwyddo i Racing Metro

Mike Phillips
Image caption Mae Phillips yn ymuno a Jamie Roberts a Dan Lydiate yn Racing Metro

Mae clwb rygbi Racing Metro wedi cadarnhau bod mewnwr Cymru Mike Phillips wedi arwyddo i'r clwb o Ffrainc.

Cafodd Phillips ei ddiswyddo gan ei glwb diwethaf Bayonne ym mis Hydref wedi honiadau ei fod wedi mynychu sesiwn hyfforddi dan ddylanwad alcohol.

Roedd Racing wedi gwadu adroddiadau yr wythnos diwethaf eu bod wedi cynnig cytundeb tan ddiwedd y tymor i'r Cymro.

Daeth cadarnhad ddydd Llun y bydd Phillips yn ymuno a Jamie Roberts a Dan Lydiate yn Racing Metro ond nid yw'r clwb wedi rhoi unrhyw fanylion am hyd y cytundeb.

Chwaraewr dadleuol

Chwaraeodd Phillips, sy'n 31, mewn tair o'r pedair gêm yng Nghyfres yr Hydref ym mis Tachwedd.

Image caption Mae'n ymddangos bod Phillips wedi sefyll ar law Quade Cooper yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia

Mae'r mewnwr, sydd yn gymeriad dadleuol ar y cae ac oddi arno, wedi achosi stŵr unwaith eto wedi colled Cymru yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Mae lluniau teledu yn dangos iddo sefyll ar law maswr y Wallabies, Quade Cooper.

Ymunodd Phillips a charfan Cymru wedi ei ddiswyddiad gan Bayonne lle oedd wedi bod ers symud o'r Gweilch yn 2011.

Bu Phillips o flaen bwrdd disgyblu Bayonne i ateb honiadau ei fod wedi mynychu sesiwn dadansoddi fideo dan ddylanwad alcohol.

Dywedodd Phillips, oedd dan gytundeb hyd at fis Mehefin 2014, ei fod yn teimlo'n "siomedig a rhwystredig" oherwydd penderfyniad y clwb.

Cyhoeddodd y gallai ddechrau achos cyfreithiol yn erbyn Bayonne ym mis Hydref.

Mae Phillips yn ymuno â'i gyd chwaraewyr o Gymru, Jamie Roberts a Dan Lydiate.

Straeon perthnasol