Profion Pisa: Cymru'n waeth na gweddill y DU

Merched Image copyright PA
Image caption Y tro diwethaf Cymru oedd y waethaf ymysg gwledydd Prydain

Mae disgyblion Cymru ar ei hôl hi o hyd o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ôl astudiaeth ryngwladol.

Roedd canlyniadau profion Pisa'n dangos bod canlyniadau disgyblion 15 oed Cymru ar gyfartaledd yn waeth nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ym mathemateg, daeth Cymru'n 43fed y tro hwn allan o 68 o wledydd, o'i gymharu â 40fed yn 2010. Mae'n 41fed ym maes darllen, o'i gymharu â 38fed yn 2010. Ac ym maes gwyddoniaeth, mae Cymru wedi disgyn o'r 30ain safle i'r 36ed y tro hwn.

Mae'r canlyniadau'n golygu bod nod Llywodraeth Cymru, o fod ymhlith yr 20 safle ucha' ym mhrofion Pisa erbyn 2015, yn edrych yn anoddach fyth.

Yn yr Alban mae'r canlyniadau darllen a mathemateg gorau, tra bod Lloegr ar y blaen ym maes gwyddoniaeth.

Shanghai-China sydd ar y brig yn y tri maes, gan symud ymhellach ar y blaen i weddill y byd.

Mae'r sgôr mathemateg yno yn cyfateb i dair blynedd ysgol yn uwch na'r cyfartaledd.

Roedd Singapore, Taiwan, De Corea a Japan ymhlith y gwledydd eraill i berfformio orau.

Mae'r Ffindir, oedd yn arfer â bod yn un o'r gwledydd cryfa', wedi disgyn yn y tablau - yn enwedig ym maes mathemateg. Ond maen nhw'n dal i berfformio'n well nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, gan ddod yn 5ed yn y profion gwyddoniaeth.

Y Mudiad er Cydweithredu Economaidd a Datblygu (OECD) gyhoeddodd y manylion fore Mawrth.

Newidiadau

Y tro diwethaf hefyd, Cymru oedd y gwaetha' ymysg gwledydd y DU ac yn sgil canlyniadau siomedig aeth y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, ati i gyflwyno newidiadau.

Mae'r manylion diweddara' yn dangos bod disgyblion Cymru ar gyfartaledd wedi sgorio 468 o bwyntiau.

Y sgôr yn yr Alban oedd 498, 495 yn Lloegr a 487 yng Ngogledd Iwerddon.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad "fod y perfformiad yng Nghymru'n is na gweddill y deyrnas."

Dywedodd Andreas Schleicher, pennaeth Pisa: "Yn gyffredinol mae'r canlyniadau'n debyg iawn i'r hyn oedden nhw yn 2009. Ond mae Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol iawn iawn pan ry'ch chi'n cymharu â gweddill Prydain. Rydyn ni'n sôn am dri chwarter blwyddyn ysgol.

"Mae nifer o gamau wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf. Ond does dim posib i'r rheiny gael eu hadlewyrchu yn y canlyniadau yn 2012. Mae'n mynd i gymryd amser i'r gweithredoedd hynny drosglwyddo'n ganlyniadau gwell."

'Annerbyniol'

Mae Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins, wedi dweud: "Dyw hi ddim yn dderbyniol bod Cymru gymaint ar ei hôl hi.

"Dylai'r canlyniadau fod yn rheswm i ni weithredu ar frys ac mae'n achos gofid i'r rhai sy'n hidio am ddyfodol addysg yng Nghymru.

"Mae grymuso prifathrawon yn arwain at ysgolion gwell ond mae angen i'r llywodraeth eu cefnogi.

"Ac mae hyn yn golygu Estyn yn bwrw golwg ar y darlun cyflawn mewn ysgol a bod goruchwylio llywodraethwyr yn cael ei gryfhau."

Ym mis Tachwedd dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn disgwyl y byddai canlyniadau Pisa'n gwella.

'Osgoi panig'

Wrth ymateb i'r canlyniadau ddydd Mawrth, dywedodd Chris Keates, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb yr NASUWT, fod profion Pisa yn bwysig ond bod yna ffyrdd eraill o asesu llwyddiant systemau addysg ac na ddylid rhoi gormod o bwysau ar y canlyniadau diweddara' yma.

"Mae'n rhaid osgoi'r 'panig Pisa' a welwyd wedi canlyniadau 2009. Fe arweiniodd at gyflwyno polisïau oedd heb gael eu hystyried yn llawn ac oedd â'r potensial i niweidio yn hytrach na gwella ansawdd y ddarpariaeth addysg yng Nghymru.

"Mae'r OECD yn pwysleisio nad yw safle system addysg o fewn y tablau yn ffordd ddibynadwy o asesu cryfder cymharol y system honno.

"Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n rhoi astudiaeth Pisa yn 2012 mewn cyd-destun, ac yn ei ddefnyddio fel canllaw yn hytrach nag ysgogiad ar gyfer polisïau addysg."

'Angen amser'

Meddai Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru: "Er bod yna ychydig o gynnydd yn ein sgôr ar gyfer darllen, mae'r canlyniadau mathemateg a gwyddoniaeth yn dal i ddirywio ac mae'n destun pryder.

Ond rhybuddiodd nad oedd y newidiadau a gyflwynwyd i'r system addysg yng Nghymru wedi cael cyfle i fynd i waith eto.

"Mae rhifedd a llythrennedd yn flaenoriaethau nawr, ac mae yna fframweithiau a strwythurau cenedlaethol i gefnogi hyn. Dyw'r rheiny ddim wedi cael amser i wneud gwahaniaeth eto.

"Mae'r canlyniadau Pisa yn ddifrifol ond byddai'n beryglus newid trywydd nawr."

Yn ôl Chris Howard, o NAHT Cymru: "Mae angen i ni gyd gytuno fod Pisa yn cyfri. Mae'n fesuriad cyfyng o system addysg ond mae'n cael ei adnabod yn rhyngwladol.

"Mae'n rhy syml gofyn beth sy'n mynd o'i le yn ein hysgolion. Roedd Leighton Andrews yn gywir pan gyfeiriodd at broblem systematig. Nawr mae angen i ni gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau fod ein hysgolion yn llwyddo i ddysgu'r hyn sy'n angenrheidiol o fewn marchnad addysg fydeang."

Dywedodd llefarydd ar ran UCAC: "Yn sgil y canlyniadau PISA diwethaf yn 2010, gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau sylweddol a sylfaenol iawn i'r system addysg.

"Nid oedd hi'n realistig disgwyl i'r polisïau hynny gael effaith ar ganlyniadau eleni - roedd hi'n rhy fuan. Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n dal ati gyda'r newidiadau sydd eisoes ar waith, ac yn sicrhau bod y rheiny'n cael eu gweithredu'n drwyadl ac yn gyson ledled Cymru, gyda chefnogaeth gref i ysgolion."

Straeon perthnasol