Marina Aberystwyth ar werth am £2.5m

Marina Aberystwyth
Image caption Fe gostiodd marina Aberystwyth £10m i'w adeiladu ac fe agorodd yn 1995

Mae perchnogion marina Aberystwyth wedi rhoi'r safle 23 acer (9 hectar) ar werth am £2.5m.

Y gred yw mai'r 'Lanfa', sydd â 150 o angorfeydd, yw'r marina cynta' i fynd ar werth yn y DU ers 2008.

Dywedodd y perchnogion Merlin Homes eu bod wedi penderfynu gwerthu "i weithredwr mwy profiadol all ddatblygu'r busnes".

Mae'r gwerthiant wedi ei roi yn nwylo'r ymgynghorwyr eiddo Colliers International.

Dywedodd John Rushby, o'r cwmni, fod y perchennog yn gwerthu'r safle "am nad yw e'n weithredwr marina profiadol... Mae wedi codi lefelau masnach i bwynt ble mae'n bryd gwerthu i rywun mwy profiadol all ddatblygu'r busnes. Mae ganddo hefyd brosiectau eraill y mae o am ganolbwyntio arnynt.

"Mae safleoedd fel hyn yn tueddu i werthu heb fynd ar y farchnad, felly pan maen nhw'n mynd ar werth fel hyn maent yn denu cryn dipyn o ddiddordeb."

Mae'r ffioedd angori blynyddol yn amrywio o £1,745 am gychod hyd at bum metr o hyd, i £3,775 am gychod hyd at 14 metr.

Mae gan y safle hefyd ganiatâd cynllunio ar gyfer 40 angorfa ychwanegol.

Fe gostiodd y marina £10m i'w adeiladu ac fe agorodd yn 1995.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.