Llywodraeth Cymru 'eisiau symleiddio'r system gynllunio'

cynllunio
Image caption Daw'r mesur wedi i adolygiad gan ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru ganfod bod y "system dan straen"

Gallai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i benderfynu ar geisiadau cynllunio mawr - gan gynnwys rhai ffermydd gwynt - yn hytrach nag awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Mae'r newidiadau'n rhan o ymgais i geisio newid y system gynllunio er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn haws i'w defnyddio.

Yn ôl swyddogion, maen nhw eisiau "adfywio'r" system er mwyn hybu twf economaidd.

Ond mae'r gwrthbleidiau yn y cynulliad yn dweud bod angen amddiffyn atebolrwydd lleol.

Wrth gyhoeddi mesur drafft ar Gynllunio ddydd Mercher, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau "newid diwylliant" o fewn awdurdodau cynllunio.

Dywedodd swyddogion eu bod eisiau "diwylliant o allu, yn hytrach na methu gwneud".

Prosiectau mawr

Llywodraeth Cymru fydd â'r gair ola' ar ddatblygiadau o "bwys cenedlaethol", yn hytrach nag awdurdodau lleol.

Gallai hyn gynnwys prosiectau ynni fydd yn creu rhwng 25 a 50 megawat, gan gynnwys ffermydd gwynt. Mae'r cyfrifoldeb dros gynlluniau ynni mwy yn parhau dan ofal Llywodraeth y DU.

Mae'r newidiadau, sy'n destun ymgynghoriad, yn caniatáu pobl i fynd uwchlaw eu cynghorau lleol os ydyn nhw'n methu targedau. Yn hytrach, bydd modd cyflwyno ceisiadau'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Daeth adolygiad gan Lywodraeth Cymru'r llynedd i'r casgliad fod y "system dan straen".

Mae yna 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru - 22 o gynghorau a thri awdurdod parc cenedlaethol.

Mae bron i hanner yr awdurdodau wedi paratoi cynlluniau datblygu lleol, sy'n neilltuo rhannau o dir ar gyfer adeiladau penodol.

'Darparu twf'

Ond mae 'na bryderon fod rhai o'r cynlluniau'n cymryd gormod o amser i'w cyflwyno.

Byddai'r newidiadau'n galluogi gweinidogion i alw ar awdurdodau cynllunio lleol i gydweithio ar gynlluniau datblygu strategol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau, gan gynnwys sicrhau fod digon o dir ar gyfer tai. Byddai hefyd yn bosib uno awdurdodau.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Carl Sargeant AC: "Rydym eisiau symud y broses gynllunio o reoleiddio datblygiad i alluogi datblygiad priodol.

"Mae'n rhaid i'n system gynllunio ddarparu twf yn y sectorau tai, swyddi ac isadeiledd - rhywbeth y mae gan genedlaethau'r dyfodol yr hawl i'w ddisgwyl."

'Atebolrwydd lleol'

Yn ôl Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru: "Ar hyn o bryd mae'r holl ddiwylliant o ran cynllunio yng Nghymru'n ymwneud ag atal, neu rwystro datblygiad."

Ychwanegodd fod symud i gynlluniau datblygu rhanbarthol "yn gwneud synnwyr ar sawl lefel".

"Ond wrth gwrs mae 'na bryder eich bod yn colli atebolrwydd lleol o ran democratiaeth," rhybuddiodd.

Meddai Gareth Williams, cyfarwyddwr ymgynghorwyr cynllunio Nathaniel Lichfield and Partners yng Nghaerdydd, "mae'r system wedi dod i stop yn ystod y blynyddoedd diwethaf".

"'Dyw cynlluniau datblygu lleol ddim yn cael eu paratoi mor gyflym ag y dylen nhw, sy'n golygu nad oes sail bwrpasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

"Felly, mae pethau'n cymryd rhagor o amser ac mae 'na fwy o ansicrwydd yn y broses, ac mae'n llawer anoddach i gyflawni'r tŵf economaidd sy'n gysylltiedig â datblygu."

'Effaith andwyol ar yr iaith'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder nad oes sôn am y Gymraeg yn y mesur drafft.

Dywedodd eu cadeirydd, Robin Farrar: "Mae'r system gynllunio yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar hyn o bryd, a byddwn ni'n ystyried y cynigion sydd wedi cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'n warthus ar ôl yr holl dystiolaeth mae'r Llywodraeth wedi ei derbyn, nad oes sôn am y Gymraeg yn y mesur drafft.

"Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Gweinidog wythnos nesaf i drafod y mesur. Ond byddwn ni'n glir bod angen newidiadau sylweddol i'r system, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu yn ein cymunedau, yn hytrach na pharhau i grebachu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.