Adroddiad ar gyflwr cymunedau Cymraeg eu hiaith

Ysgrifennu Cymraeg Image copyright Not Specified
Image caption Bu gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011

Mae grŵp gafodd ei sefydlu er mwyn ystyried sut i gynyddu nifer y cymunedau sy'n siarad Cymraeg wedi cyhoeddi ei adroddiad.

Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gymunedau Cymraeg ei sefydlu yn dilyn cyfrifiad 2011 pan oedd gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg.

Bu gostyngiad hefyd yn nifer y cymunedau lle'r oedd mwy na 50% yn siarad yr iaith.

Un o brif argymhellion yr adroddiad yw i greu dinas-ranbarthau newydd yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig er mwyn hybu eu heconomiau.

'Gwersi i'w dysgu'

Ymhlith y prif faterion a gafodd eu hystyried oedd tai a'r economi, addysg Gymraeg, y defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle, a'r mesurau y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill eu cymryd i hyrwyddo'r iaith.

Dywed yr adroddiad fod yna leihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn yr ardaloedd lle mae yna ganran uchel yn siarad yr iaith.

Maen nhw'n dweud fod tua thraean o siaradwyr hŷn yn gadael yr ardaloedd dan sylw, tra bod lleihad yn nifer y plant sy'n cael eu geni a magu yn ardaloedd y canrannau uwch.

Dywed yr adroddiad fod mewnfudiad hefyd wedi cael effaith "gan nad ydynt yn dysgu'r iaith nac yn cymdeithasu trwy'r iaith Gymraeg."

Yn ôl yr adroddiad mae yna wersi i'w dysgu o bolisïau sydd wedi eu dilyn yn Quebec, Catalonia a Gwlad y Basg.

Argymhellion

Ymhlith yr argymhellion mae sicrhau ffyniant economaidd yr ardaloedd Cymraeg.

Byddai hyn, meddai'r adroddiad, yn golygu datblygu Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin "fel dinas-ranbarthau ardaloedd y canrannau uwch."

"Yn ail, galwn ar y gyfundrefn addysg ledled ardaloedd y canrannau uwch i gamu ymlaen er mwyn i bob person ifanc (a hŷn) fedru dod yn rhugl ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg."

"O ran dull trochi effeithiol, mae model Hwyrddyfodiaid Gwynedd yn ddarpariaeth lwyddiannus ac mae angen archwilio ymarferoldeb ehangu'r model yn y sector cynradd ac uwchradd ledled ardaloedd y canrannau uwch."

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod o'n croesawu'r adroddiad.

"Roedd ffigyrau'r Cyfrifiad yn 2011 yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn rhai ardaloedd lle'r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad yn eang.

"Bydd darganfyddiadau'r Grŵp yn ein cynorthwyo i fynd i'r afael â ffigyrau Cyfrifiad, ac i sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith."

Mae'r adroddiad yn codi nifer o faterion diddorol y byddaf yn eu hystyried cyn cynnig ein hymateb."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.