Cynllun newydd ar gyfer safle hen ffair yn Rhyl

Llun cyfrifiadurol o sut y bydd Ocean Plaza'n edrych pan fydd wedi ei gwblhau Image copyright Scarborough Development Group
Image caption Argraff artist o ddatblygiad Ocean Plaza

Mae yna gynlluniau newydd i drawsnewid hen safle ffair yn Sir Ddinbych.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych bod cais cynllunio amlinellol newydd, wedi cael ei gyflwyno iddynt gan Grŵp Datblygu Scarborough, ynglŷn â safle Ocean Plaza yn Rhyl.

Yn ôl y Cyngor bydd gwybodaeth am y cais yn cael ei gyrru allan yr wythnos yma, i drigolion sy'n byw yn agos i'r safle.

Cafodd ffair Marine Lake ei ddymchwel yn 2007 er mwyn creu lle i'r datblygiad.

Ond yn 2011 dywedodd y perchnogion bod y cynllun yn cael ei atal am y tro oherwydd yr hinsawdd economaidd anodd.

Cafodd y safle ei brynu gan y Grŵp Datblygu Scarborough yn 2010 wedi i'r perchnogion blaenorol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan olygu oedi.

Llynedd, ym mis Medi 2012, cafodd cynlluniau blaenorol y cwmni a oedd yn cynnwys tai eu harddangos yn gyhoeddus.

Adfywio

Y gobaith yw y byddai'r datblygiad yn adfywio gorllewin y dref.

Mae'r cynllun newydd i ddatblygu safle 5.3 hectar yn cynnwys, siop fwyd, unedau i siopau manwerthu mawr, unedau ar gyfer caffi neu dŷ-bwyta, gwesty, tafarn, gorsaf betrol yn ogystal â maes parcio a'r rhwydwaith isadeiledd perthnasol.

Ym mhecyn y cynllun mae yna ddogfennau i gefnogi'r cais yn cynnwys asesiadau manwerthiant, trafnidiaeth a llifogydd.

Mae'r cais i'w weld ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio cyfeirnod 45/2013/1510 a fyddent hefyd i'w gweld yn llyfrgell Rhyl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.